Microsoft

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynedfa i gampws Microsoft yn yr Almaen.

Cwmni cyfrifiadurol ydy Microsoft. Mae prif swyddfa'r cwmni yn Redmond, Washington State yn yr Unol Daleithiau, ond mae swyddfeydd gyda nhw yng ngwledydd eraill hefyd. Steve Balmer yw pennaeth y cwmni, ar ôl i Bill Gates ymddeuol yn haf 2008. Maent yn enwog am fod un o'r cwmnïau fwyaf llwyddiannus y byd cyfrifiadurol.

Wedi ei sefydlu ym 1975, Microsoft yw'r arweinwyr byd-eang mewn meddalwedd, gwasanaethau ac atebion sy'n helpu pobl a busnesau i gyflawni eu holl potensial.

Ei gynnyrch enwocaf yw Microsoft Windows, sydd ar gael mewn sawl fersiwn yn cynnwys Windows XP a Windows Vista; dyma'r system mwyaf poblogaidd o bell ffordd ar gyfer y Cyfrifiadur Personol (PC). Mae'r meddalwedd ar gael yn Gymraeg o wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae cynnyrch poblogaidd eraill yn cynnwys y porwr gwe Internet Explorer a Microsoft Office, rhaglennu sydd yn boblogaidd iawn ar ledled y byd. Gellir hefyd defnyddio "Spell Check" Cymraeg fel ychwanegiad i Microsoft Office, sydd ar gael ar wefan Microsoft.[1]

Mae gan Microsoft nifer o gwmnïau gemau, ac mae ganddynt hanes o ryddhau gemau poblogaidd (e.e. Cyfres Age Of Empires efo Ensemble Studios.) Yn dilyn hyn rhyddhawyd y systemau gemau Xbox (2002) a Xbox 360 (2005).

Exquisite-kfm home.png Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Coins.png Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill