Cemeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cemegolyn)
Cemeg
Enghraifft o'r canlynolcangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, maes astudiaeth, arbenigedd Edit this on Wikidata
Mathgwyddoniaeth ffisegol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscemeg organig, cemeg ffisegol, cemeg anorganig, cemeg gyfrifiadol, cemeg ddamcaniaethol, Biocemeg, Cemeg ddadansoddol, food chemistry, cemeg amgylcheddol, polymer chemistry Edit this on Wikidata
Rhagflaenyddalcemi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cemeg
Cemeg

Adwaith cildroadwy
Anfetel
Atom
Bondio Cemegol
Cyfradd adwaith
Cylchred Garbon
Ffotosynthesis
Sylffwr deuocsid
Sbectrwm Electromagnetig
Titrad
Ïon

Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd â'i drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Mae'n delio gan mwyaf gyda chasgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal â'u trawsffurfiadau a'u rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal â hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiadau o atomau unigol a defnyddio'r wybodaeth yna ar y lefel macrosgobig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan rymoedd electromagnetig rhyngatomig a deddfau mecaneg cwantwm.

Mae cemeg yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin ynni a sut mae o'n adweithio gyda mater. Mae hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwy'r disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg foleciwlaidd.

Mae'n bosib gweld trefn yr elfennau yn y Tabl Cyfnodol sy'n dangos y nifer o brotonau sydd gan bob un a beth yw pwysau atomau'r elfen honno gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Mae'n bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrin â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.

Yng Nghymru, mae'n orfodol i fyfyrwyr ysgol astudio cemeg hyd at lefel TGAU (16 oed).


Chwiliwch am cemeg
yn Wiciadur.