Mantell garpiog
| Polygonia c-album | |
|---|---|
| Dorsal view | |
| Ffotograff o'r ochor. Hutchinsoni gyda'i dan-adain o liw golau. | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Nymphalidae |
| Llwyth: | Nymphalini |
| Genws: | Polygonia |
| Rhywogaeth: | P. c-album |
| Enw deuenwol | |
| Polygonia c-album (Linnaeus, 1758) |
|
| Subspecies | |
|
8 sspp, see text |
|
| Cyfystyron | |
|
Nymphalis c-album |
|
Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell garpiog, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll carpiog; yr enw Saesneg yw Comma, a'r enw gwyddonol yw Polygonia c-album.[1][2] Mae'r Polygonia c-album i'w weld ledled Ewrop a'r ardaloedd cynnes yn Asia a Japan a'r holl ffordd i'r de i Forocco. Mae mathau tebyg iddynt ar gael yng Ngogledd America. [3]>[4][5]
Mae lled ei adenydd (ar ei fwyaf) oddeutu 45mm gydag oddi tan yr adain o liw brown, gydg "c" ar bob un mewn gwyn. Dyma sut y cafodd yr enw Lladin. Mae ymylon yr adenyd yn igam-ogam, fel ymyl deilen ac mae hyn yn ddull hawdd o'i hadnabod.[4]
Gan fod y math hwn o löyn byw yn cysgu drwy'r gaeaf, mae nhw i'w gweld drwy'r flwyddyn gron. Eu tymor hedfan, fodd bynnag ydy rhwng Ebrill a Thachwedd.
Cynnwys |
Bwyd [golygu]
Prif fwyd yr oedolyn ydy ysgall (Cirsium a Carduus), a mwyar duon: (Rubus fruticosus), Iorwg (Hedera helix) a Centaurea a (Ligustrum vulgare).
Isrywogaethau [golygu]
- P. c. imperfecta (Blachier, 1908) Gogledd Affrica
- P. c. extensa (Leech, [1892]) Canol a Gorllewin Tseina
- P. c. kultukensis Kleinschmidt, 1929 Transbaikalia
- P. c. hamigera (Butler, 1877) Ussuri
- P. c. koreana Bryk, 1946 Korea
- P. c. sachalinensis Matsumura, 1915 Sakhalin
- P. c. asakurai (Nakahara, 1920) Taiwan
- P. c. agnicula (Moore, 1872) Nepal [6]
Cyffredinol [golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell garpiog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ UK Safari
- ↑ 4.0 4.1 Comma page at UK Butterflies site
- ↑ Gwefan Butterfly Conservation
- ↑ Funet.fi; adalwyd 3 Hydref 2012