Gwibiwr bach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thymelicus sylvestris
Benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Hesperiidae
Genws: Thymelicus
Rhywogaeth: T. sylvestris
Enw deuenwol
Thymelicus sylvestris
(Poda, 1761)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr bach, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr bach; yr enw Saesneg yw Small Skipper, a'r enw gwyddonol yw Thymelicus sylvestris.[1][2]

Gwibiwr bach (yr Almaen 2009)

Mae ganddo liw sydd rhywle rhwng oren a rhwd. Mae'r corff fodd bynnag yn arian-gwyn ac mae ganddo adenydd sy'n mesur rhwng 25–30 mm.

Cyffredinol[golygu]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwibiwr bach yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.