Britheg y gors

Oddi ar Wicipedia
Britheg y gors
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Euphydryas
Rhywogaeth: E. aurinia
Enw deuenwol
Euphydryas aurinia
(Rottemburg, 1775)

Glöyn byw Ewropeaidd yw Britheg y Gors (Euphydryas aurinia), ac mae dan fygythiad a'i niferoedd yn lleihau’n gyflym drwy wledydd Prydain. Mae'n ddibynol ar Damaid y cythraul fel ei brif fwyd. Mae gan yr oedolion farciau trawiadol aur ac orengoch a gwythiennau duon. Ar ochr isaf yr adenydd mae patrwm melyn, oren a du heb unrhyw arlliw o arian o gwbl. Ceir marciau arian o dan adenydd pob math arall o frithion, yng Nghymru.

Mae De Cymru yn un o brif gadarnleoedd y rhywogaeth yn Ewrop. Mae rhai poblogaethau yn bodoli yn y gogledd hefyd. Fel arfer mae Britheg y Gors i’w chael mewn glaswelltiroedd llaith a grugog a elwir Porfeydd Rhos ond mae'r rhywogaeth yn bodoli mewn mathau eraill o gynefinoedd sy'n sychach, fel glaswelltiroedd niwtral neu laswelltiroedd calchaidd sych. Gellir gweld poblogaethau bach weithiau mewn nifer o fannau lle nad oes llawer o fwyd planhigion i’w gael. Gall poblogaethau bach fod yn elfen bwysig o'r ecoleg a'r deinameg poblogaeth oherwydd gallant gynhyrchu llawer o unigolion symudol, sy'n gallu sefydlu poblogaethau eraill.

Mae Britheg y Gors yn cael ei diogelu dan gyfraith Prydain. Mae wedi’i rhestru yn rhestr warchodedig Atodiad 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Mae’r pili palod yn hedfan o ganol Mai tan Fehefin. Dodwyir yr wyau mewn grwpiau ar ochr isaf dail y planhigyn bwyd, Tamaid y cythraul (Succisa pratensis). Mae’r lindys ifanc yn byw mewn gweoedd cyffredin a nyddant dros y planhigyn bwyd. Yn yr hydref maent yn nyddu gweoedd cryfach lle byddant yn dechrau gaeafgysgu.

Yn y gwanwyn bydd y lindys yn dechrau gwasgaru, ar ôl y bwrw croen terfynol. Byddant wedi newid o liw brown i ddu. Gellir eu gweld yn torheulo weithiau. Mae rhaid iddynt fod yn gynnes i fwyta.

Mae gwaith ymchwil i ddeinameg poblogaeth Britheg y Gors wedi dangos ei bod yn byw mewn “metaboblogaethau”. Diffinnir Metaboblogaeth fel “casgliad o boblogaethau lleol, sy’n dod i gysylltiad â’i gilydd o ganlyniad i wasgaru achlysurol. O fewn y rhain bydd rhai yn diflannu a chlystyrau eraill yn cael eu sefydlu.”

Fel arfer mae Brith y Gors yn byw mewn poblogaethau bach sy’n dueddol o farw allan ac yna bydd poblogaethau eraill yn cael eu sefydlu o safleoedd cyfagos. Elfen bwysig iawn yn y gyfyndrefn o fetaboblogaethau yw y bydd ardaloedd o gynefin gwag yn bodoli bob amser o fewn y gyfundrefn. Mae’n bosib i’r rhan fwyaf o’r darnau cynefin fod yn wag. Mae diogelu safleoedd addas lle nad yw’r pili pala’n bresennol yn hanfodol i’w goroesiad yn y tymor hir.