Gwibiwr y llennyrch

Oddi ar Wicipedia
Carterocephalus palaemon
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Hesperiidae
Genws: Carterocephalus
Rhywogaeth: C. palaemon
Enw deuenwol
Carterocephalus palaemon
(Pallas, 1771)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr y llennyrch, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr y llennyrch; yr enw Saesneg yw Chequered Skipper, a'r enw gwyddonol yw Carterocephalus palaemon.[1][2] Ystyr llennyrch yw llawer o lefydd agored mewn coedwig; unigol "llannerch".

Hyd ei adenydd yw rhwng 29 a 31 mm. Mae i'w ganfod yn yr Eidal, Portiwgal, Iwerddon, Denmarc, Sbaen, UDA, gwledydd Prydain a Gwlad Groeg. Caiff yr wyau eu dodwy yn yr Alban ar Molinia caerulea, yn Lloegr ar y planhigyn Brachypodium sylvaticum ac yn yr UDA ar Calamagrostis purpurascens sef ei hoff fwyd. Cânt eu dodwy rhwng Mehefin a Gorffennaf a chymerant 10 diwrnod i ddeor.

Diflannodd o Loegr yn 1976 ond cafwyd ymgais i'w ail gyflwyno yno yn yr 1990au.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae gwibiwr y llennyrch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Delweddau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.