Argws brown
| Aricia agestis | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Lycaenidae |
| Genws: | Aricia |
| Rhywogaeth: | A. agestis |
| Enw deuenwol | |
| Aricia agestis (Denis & Schiffermüller, 1775) |
|
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw argws brown, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy argysau brown; yr enw Saesneg yw Brown Argus, a'r enw gwyddonol yw Aricia agestis.[1][2] Mae i'w ganfod yng Nghymru a Lloegr mor ogleddol â Swydd Efrog. Mae i'w weld hefyd ledled Ewrop: o dde Sweden i Sbaen ac i'r dwyrain hyd at Siberia.
Cynnwys |
Bwyd [golygu]
Hoff fwyd yr Argws brown ydy mathau o fynawyd y bugail, ar dir calchog.
Wyau ac oedolion [golygu]
Caiff yr wyau eu dodwy ar y tu isaf i ddail, a hynny'n unigol. Mae'r siani flewog yn debycach i wlithen a cheir morgrug o'i chwmpas yn aml. Yng ngwledydd Prydain un cenhedlaeth a geir ac fe'i gwelir ar adenydd ym Mehefin a Gorffennaf.
Cyffredinol [golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r argws brown yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur; adalwyd 13/12/2012.