Adain
Oddi ar Wicipedia
Rhan o gorff anifail, aderyn, neu awyren ydy adain (lluosog adenydd) (neu weithiau asgell) sydd wedi ei siapio'n arbennig ar gyfer codi a hedfan yn yr awyr. Fel arfer ceir dau, ac maent yn gweithio fel pâr. Mae gan rhai o'r rhywiogaethau hyn adenydd hefyd: ystlymod, pryfaid a'r pterosauros. Gallant fod yn lliwgar ee adenydd pili pala, a'u defnyddio i bwrpas ar wahân i hedfan, sef naill ai er mwyn dennu cymar neu i dychryn y gelyn.