Gwasg Prifysgol Rhydychen
Oddi ar Wicipedia
Gwasg Prifysgol Rhydychen (Saesneg: Oxford University Press; talfyriad arferol, OUP) yw prif gyhoeddwyr academaidd Lloegr ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd. Mae'n un o adrannau Prifysgol Rhydychen ac yn cyhoeddi nifer o lyfrau safonol ar ystod eang o bynciau academaidd ynghyd â'r gyfres o glasuron llenyddiaeth, World Classics. Erbyn heddiw mae'r wasg wedi ymledu ymhell y tu hwnt i Loegr gyda changhennau pwysig mewn sawl gwlad ledled y byd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia ac India, sy'n cyhoeddi eu llyfrau eu hunain a gyfer y gwledydd hynny.
Mae'r wasg yn cyhoeddi sawl cyfrol o ddiddordeb Cymreig, yn cynnwys y gyfrol boblogaidd Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Prif wefan swyddogol