Zarathustra

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Zoroaster)
Zarathustra
GanwydRay, Unknown Edit this on Wikidata
Bu farwBalkh, Unknown Edit this on Wikidata
Galwedigaethproffwyd, sylfaenydd crefydd, bardd, ysgrifennwr, gwneuthurwr gwyrthiau Edit this on Wikidata
TadPorushaspa Edit this on Wikidata
MamDohodo Edit this on Wikidata
PriodHvōvi Edit this on Wikidata
PlantPorvchyista, Isat Vastar Edit this on Wikidata

Proffwyd Iranaidd a sefydlydd Zoroastriaeth oedd Zarathustra neu Zoroaster (efallai tua 628 - 551 CC; mae rhai awdurdodau'n awgrymu dyddiad llawer cynharach).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ymddengys iddo gael ei eni yng nghyffiniau Tehran. Credir ei fod yn offeiriad yn y grefydd baganaidd amldduwiog hynafol a fodolai'r adeg hynny. Dywedir iddo gael gweledigaeth o'r duw Ahura Mazda, a orchmynodd iddo greu crefydd newydd seiliedig ar ei addoliaeth.

Cyflwynodd Zarathustra gyfres o ddiwygiadau i'r hen grefydd, gan gynnwys gwaharddu defodau orgiastiaidd. Serch hynny ni waharddwyd offrymu anifeiliaid a daeth addoli'r tân sanctaidd (symbol pennaf Mazda fel duw'r haul a'r goleuni), elfen hynafol iawn yng nghrefydd y wlad, i fwynhau rhan ganolog yn y grefydd newydd.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cedwir yr athrawiaeth a briodolir i Zarathustra yn emynau y Gathas a'r Avesta; y mwyaf adnabyddus o'r gweithiau hyn yw'r Zend Avesta.

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd yr awdur Almaenig Friedrich Nietzsche ei gyfrol ddylanwadol Also sprach Zarathustra, a gyhoeddwyd yn 1883-5.

Baner IranEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Iraniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.