Max Planck
Oddi ar Wicipedia
Roedd Max Karl Ernst Ludwig Planck (23 Ebrill 1858 – 4 Hydref 1947) yn ffisegydd o Almaenwr. Ef a luniodd y ddamcaniaeth cwantwm.
Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Ganwyd yn Kiel, a hanai Planck o deulu dawnus; roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi gwneud gwaith ymchwil mewn amryw o feysydd academaidd. Roedd ei dad yn athro coleg yn y gyfraith. Pan oedd Planck yn llanc symudodd y teulu i München yn dilyn penodiad ei dad yn athro yn y coleg.
[golygu] Addysg
Dechreuodd Planck astudio ffiseg yn München yn 1874, gan raddio'n athro yn 1878. Derbyniodd radd doethur yn 1879 a gradd uwch-ddoethur Privatdozent yn 1880.
[golygu] Gyrfa
Yn 1885 penodwyd Planck yn athro cyswllt (heb gadair) ym maes Ffiseg Damcaniaethol yn Göttingen. Yn 1889 fe'i penodwyd yn athro (gyda chadair) yn Berlin.
[golygu] Darganfyddiadau ffiseg
Yn 1900 darganfyddodd Planck deddfau pelydriad thermol a thrwy'r gwaith hwnnw lluniodd y ddamcaniaeth cwantwm. Derbyniodd y Wobr Nobel ar gyfer Ffiseg yn 1918 ar sail ei waith ar y ddamcaniaeth cwantwm. Bu'n meithrin doniau Albert Einstein, gan ddechrau yn 1905, ond yn wahanol i Einstein, arhosodd yn yr Almaen yn ystod cyfnod y Natsïaid.
[golygu] Manylion personol
Priododd Planck ddwywaith. Cafodd 5 o blant ond bu tri ohonynt farw'n ifainc. Bu farw Planck o'r diciâu yn Göttingen.