Vancouver
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma am ddinas Vancouver. Am yr ynys, gweler Ynys Vancouver
| Vancouver | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn y Lower Mainland a British Columbia | |
| Gwlad | Canada |
| Ardal | British Columbia |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Dinas Vancouver |
| Pencadlys | City Hall |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 1,558 km² |
| Uchder | 2 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 578,041 (Cyfrifiad 2006) |
| Dwysedd Poblogaeth | 5,335 /km2 |
| Metro | 2,116,581 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | PST (UTC-8) |
| Cod Post | V5K i V6Z |
| Gwefan | http://vancouver.ca/ |
Dinas yng ngorllewin Canada yw Vancouver.
Vancouver yw dinas fwyaf talaith British Columbia ar arfordir gorllewinol Canada. Sefydlwyd gwladfa fach o'r enw "Gastown" ar y safle ym 1862 a datblygodd yn dre fach o'r enw "Granville". Ailenwyd y dre yn "Vancouver" ym 1886 ar ôl y fforiwr George Vancouver (1757-1798).
Erbyn heddiw mae hanner miliwn o bobl yn byw yn y ddinas gyda dros 2 miliwn yn ardal ddinesig Vancouver Fwyaf. Mae ardal dinas Vancouver yn cynnwys bron hanner poblogaeth talaith British Columbia.
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn Vancouver, ynghyd â thref Whistler.
Dolenni Allanol [golygu]