Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010

Oddi ar Wicipedia
Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd y Gaeaf Edit this on Wikidata
DyddiadChwefror 2010 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd12 Chwefror 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Chwefror 2010 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd y Gaeaf 2006 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd y Gaeaf 2014 Edit this on Wikidata
LleoliadBC Place Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbiathlon at the 2010 Winter Olympics – men's individual, Nordic skiing at the 2010 Winter Olympics, alpine skiing at the 2010 Winter Olympics, biathlon at the 2010 Winter Olympics, ski jumping at the 2010 Winter Olympics, curling at the 2010 Winter Olympics, Nordic combined at the 2010 Winter Olympics, Hoci iâ yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010, short track speed skating at the 2010 Winter Olympics, Luge yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010, skeleton at the 2010 Winter Olympics, bobsleigh at the 2010 Winter Olympics, freestyle skiing at the 2010 Winter Olympics, Sglefrio cyflymder yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010, snowboarding at the 2010 Winter Olympics, cross-country skiing at the 2010 Winter Olympics, figure skating at the 2010 Winter Olympics Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthVancouver Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/vancouver-2010 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Gemau Olympaidd y Gaeaf Vancouver 2010

Cynhaliwyd digwyddiad aml-chwaraeon Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010, a adnabuwyd yn swyddogol fel Gemau Olympaidd y Gaeaf XXI, yn Vancouver, British Columbia, Canada, o 12 Chwefror 2006 tan 28 Chwefror 2010. Cynhaliwyd rhai o'r chwaraeon yn nhref cyrchfan Whistler, British Columbia ac ym maestrefi Vancouver Richmond, West Vancouver a'r University Endowment Lands. Trefnir y Gemau hyn a'r Gemau Paralympaidd gan Bwyllgor Trefnu Vancouver (Vancouver Organizing Committee neu VANOC). Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yw'r drydedd Gemau Olympaidd i gael ei chynnal yng Nghanada, a'r cyntaf yn nhalaith British Columbia. Y gemau a gynhaliwyd yng Nghanada yn flaenorol oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1976 ym Montreal, Quebec a Gemau Olympaidd y Gaeaf 1988 yn Calgary, Alberta.

Yn ôl y traddodiad Olympiadd, codwyd y faner Olympaidd gan faer Vancouver, Sam Sullivan, yn ystod seremoni gloi Gemau Olympaidd y Gaeaf 2006 yn Torino, yr Eidal, ar 28 Chwefror 2006, a bu'r faner yn cael ei harddangos yn Neuadd Dinas Vancouver tan seremoni agoriadol Gemau 2010. Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Lywodraethwr Cyffredinol Canada, Michaëlle Jean.[1]

Cynigion a pharatoadau[golygu | golygu cod]

Canlyniadau cynigion Gemau 2010
Dinas POC Rownd 1 Rownd 2
Vancouver Baner Canada 40 56
PyeongChang Baner De Corea 51 53
Salzburg Baner Awstria 16 -

Dewisodd Cymdeithas Olympaidd Canada ddinas Vancouver fel yr ymgeisydd Canadiaidd yn hytrach na Calgary, a oedd eisiau ail-westeio'r gemau, a Dinas Quebec a gollodd y cynnig Olympiadd ar gyfer Gemau 2002 ym 1995. Wedi'r rownd gyntaf o belidleisio ar 21 Tachwedd 1998, roedd gan cynnig Vancouver-Whistler 26 plaidlais, roedd 25 pleidlais dros Dinas Quebec a 21 dros Calgary. Cynhaliwyd yr ail rownd, sef y rownd derfynol o bleidleisio ar 3 Rhagfyr 198, rhwng y ddau brif gystadleuydd, ac enillodd Vancouver gyda 40 pleidlais i gymharu â'r 32 pleidlais a dderbyniodd Dinas Quebec. Felly, dechreuodd Vancouver baratoi eu cynnig a lobïo rhyngwladol.

Newidiwyd nifer o'r rheolau yn ymwneud â'r broses cynigion ym 1999, wedi'r helynt llwgrwobrwyo a ddigwyddodd ym mhroses Gemau 2002 a enillwyd gan Salt Lake City (wedi hynny gofynnodd Dinas Quebec am tua $8 miliwn o iawndal am eu cynnig hwy a fethodd).[2] Creodd y Pwyllgor Olympaidd Rhynglwadol Gomisiwn Gwerthuso a apwyntiwyd ar 24 Hydref 2002. Cyn cychwyn y broses cynigion ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 2008, byddai dinasoedd yn aml yn hedfan aelodau o'r pwyllgor i'r ddinas gan roi taith o'r ddinas ac anrhegion iddynt. Arweiniodd y diffyg goruchwyliaeth a tryloywder at gyhuddiadau o gyfnewid arian am bleidleisiau. Cryfhawyd rheolau'r cynigion, gan wneud i'r broses ganolbwyntio yn fwy ar agweddau technegol y dinasoedd cais.

Enillodd Vancouver y broses cynigion i westeio'r Gemau Olympaidd mewn pleidlais y Pwyllgor Olympaidd Rhynglwadol ar 2 Gorffennaf 2003, yn 115fed Sesiwn y Pwyllgor a gynhaliwyd ym Mhrag, Gweriniaeth Tsiec. Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais gan Llywydd y PORh Jacques Rogge.[3] Bu Vancouver yn erbyn dwy ddinas arall ar y rhestr fer, sef PyeongChang, De Corea, a Salzburg, Awstria. Pyeongchang a enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y rownd gyntaf, pan gafodd Salzburg ei ddileu. Yn y rownd derfynol, pleidleisiodd pob un, heblaw dau, o'r aelodau a bleidleisiodd dros Salzburg, dros Vancouver. Hon oedd pleidlais agosaf y PORh ers i Sydney, Awstralia guro Beijing i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2000, o ond 2 pleidlais. Daeth buddugoliaeth Vancouver bron i ddwy flynedd wedi i gais Toronto ar gyfer Gemau olympaidd yr Haf 2008 golli i Beijing mewn pleidlais tirlithriad.

Dywedodd llywodraeth British Columbia y buasent yn talu am uwchraddiad i'r Sea-to-Sky Highway ar gost o $600 miliwn er mwyn ymgymhwyso'r cynnydd yn y traffig rhwng Vancouver a Whistler.

Gwariodd Bwyllgor Olympaidd Vancouver (VANOC) $16.6 miliwn yn uwchraddio cyfleusterau Cypress Mountain, sy'n gwesteio'r holl gystadlaethau arddull-rhydd (aerials, moguls, ski cross) ac eirafyrddio. Adeiladwyd pentrefi ar gyfer yr athletwyr yn Whistler a Vancouver a phrif ganolfan cyfryngau adeilad y gorllewin yng Nghanolfan Cynhadledd Vancouver yn Coal Harbour, ac un arall yn Whistler.[4]

Agorwyd Canolfan Olympaidd/paralympaidd Vancouver yn Hillcrest Park flwyddyn ymlaen llaw ym mis Chwefror 2009, costiodd $40 miliwn i'w hadeiladu, yma cynhelir y cystadlaethau cyrlio. Cwblhawyd pob adeilad mewn pryd o leiaf blwyddyn cyn cychwyn y gemau yn 2010.[5][6]

Costau[golygu | golygu cod]

Amcangyfrifwyd costau gweithredol Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn 2004, i fod yn $1.354 biliwn (doler Canadiaidd). Erbyn canol 2009, cyfrifwyd y byddai'n costio cyfanswm o $1.76 biliwn,[7] y rhan fwyaf o gronfeydd an-llywodraethol, trwy noddiadau ac arwerthiant hawliau darlledu yn bennaf. Daeth $580 miliwn gan y trethdalwyr i adeiladu neu adnewyddu cyfleusterau yn Vancouver a Whistler, disgwyliwyd i $200 miliwn gael ei wario ar ddiogelwch o dan arweinyddiaeth y Royal Canadian Mounted Police (RCMP). Datgelwyd yn ddiweddarach fod y gwir ffigwr hwnnw'n agosach at $1 biliwn, dros bum gwaith beth amcangyfrifwyd yn wreiddiol.[8] Erbyn dechrau mis Chwefror 2010, amcangyfrifwyd cyfanswm cost y Gemau i fod tua $6 biliwn, gyda $600 miliwn yn cael ei wario'n uniongyrchol ar westeio'r gemau. Amcangyfrifwyd y byddai'r buddion a'r elw i'r ddinas a'r dalaith, a godir fel canlyniad o gynnal y gemau, tua $10 biliwn, a dangosodd adroddiad Price-Waterhouse y byddai'r elw anuniongyrchol tua $1 biliwn.[9]

Canolfannau[golygu | golygu cod]

Richmond Olympic Oval: lleoliad cynnal y sglefrio cyflymder trac hir.

Mae rhai canolfannau, gan gynnwys y Richmond Olympic Oval, wedi eu lleoli ar lefel y môr, sy'n anaml ar gyfer Gemau'r Gaeaf. Gemau 2010 hefyd oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i gynnal eu seremoni agoriadol dan do. Vancouver yw'r ddinas mwyaf poblog i gynnal y gemau. Mae'r tymheredd yn Vancouver ym mis Chwefror ar gyfartaledd yn 4.8 °C (40.6 °F).[10]

Cynhaliwyd y seremonïau agoriadol a cloi yn Stadiwm BC Place, a dderbyniodd adnewyddiadau gwerth $150 miliwn. Roedd y canolfannau cystadlu yn Vancouver Fwyaf yn cynnwys y Pacific Coliseum, Canolfan Olympaidd/Paralympaidd Vancouver, UBC Winter Sports Centre, Richmond Olympic Oval a Cypress Mountain. Cynhaliwyd y cystadlaethau hoci iâ yn General Motors Place, cartref Vancouver Canucks yr NHL, ond gan na ganiateir noddi corfforedig ar gyfer canolfannau Olympaidd, ailenwyd yn Canada Hockey Place ar gyfer ystod y Gemau.[11] Derbyniodd waith adnewyddu gan gynnwys tynnu'r hysbysebu o wyneb yr iâ a throsi rhai o'r ardaloedd seddi i gymhwyso'r wasg.[11] Roedd y canolfannau cystadlu yn Whistler yn cynnwys y cyrchfan sgio Whistler Blackcomb, Parc Olympaidd Whistler a Canolfan Llithro Whistler.

Cafodd defnydd egni y canolfannau Olympaidd ei ddilyn yn fyw am y tro cyntaf, gyda'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Casglwyd ddata'r egni o'r systemau mesur ac awtomeiddio adeiladau naw o'r canolfannau, a cafodd ei arddangos ar-lein drwy'r brosiect "Venue Energy Tracker".[12]

Marchnata[golygu | golygu cod]

Cerflun o Ilanaaq, wedi ei leoli ar Mynydd Whistler.

Gorychwilwyd a dyluniwyd rhan fwyaf o brif symbolau'r gemau gan y diweddar gyfarwyddwr dylunio Leo Obstbaum (1969–2009), gan gynnwys y mascots, medalau a chynllun y ffaglau Olympaidd.[13]

Datgelwyd logo Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 23 Ebrill 2005, ac enwyd yn Ilanaaq yr Inunnguaq. Ilanaaq yw'r gair Inuktitut am gfaill. Mae'r logo'n seiliedig ar gromlech Inukshuk, a adeiladwyd ar gyfer Pafiliwn y Northwest Territories yn Expo 86 a gafodd ei roddi i Ddinas Vancouver wedi'r digwyddiad. Erbyn hyn defnyddir fel tirnod ar English Bay Beach.

Cyflwynwyd mascots Gemau Olympaidd a Paralympaidd y Gaeaf 2010 ar 27 Tachwedd 2007.[14] Ysbrydolwyd gan y creaduriaid traddodiadol First Nations, roedd y mascots yn cynnwys:

  • Miga — Arth fôr chwedlonol, rhan orca a rhan arth kermode.
  • QuatchiSasquatch yn gwisgo esgidiau ac earmuffs.
  • Sumi — Ysbryd anifail gwarchod sy'n gwisgo het y morfil orca, ac yn hedfan gydag adenydd y Thunderbird ac yn rhedeg gyda choesau blewog cryf yr arth ddu.
  • MukmukMarmot Ynys Vancouver.

Miga a Quatchi oedd mascots y Gemau Olympaidd, Sumi oedd mascot y Gemau Paralympaidd. Sidekick oedd Mukmuk yn hytrach na mascot llawn.

Cynhyrchodd y Royal Canadian Mint gyfres o ddarnau arian coffaol yn dathlu gemau 2010,[15] ac mewn partneriaeth gyda CTV, cafodd y cyhoedd gyfle i bleidleisio dros y Top 10 Canadian Olympic Winter Moments; a cafodd cynllunioau'n anrhydeddu'r tri uchaf eu ychwanegu at y gyfres o ddarnau arian.[16]

Cafodd gêm fideo Vancouver 2010 wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd yn Vancouver ei ryddhau ar 12 Ionawr 2010 er mwyn hybu'r gemau.

Darlledu a'r cyfryngau[golygu | golygu cod]

Cafodd y Gemau Olympaidd eu darlledu'n fyd-eang gan nifer o ddarlledwyr teledu. Cafodd hawliau darlledu Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 eu gwerthu ynghyd â Gemau Olympaidd yr Haf 2012, felly roedd y darlledwyr yr un peth yn bennaf ar gyfer y ddau.

Y darlledwr gwesteio oedd Olympic Broadcasting Services Vancouver, is-gwmni o uned ddarlledu mewnol newydd y PORh, yr Olympic Broadcasting Services (OBS). Gemau 2010 oedd y gemau cyntaf lle darparwyd y cyfleusterau darlledu gan yr OBS yn unig.[17] Cyfarwyddwr gweithredol Olympic Broadcasting Services Vancouver oedd Nancy Lee, cyn-gynhyrchydd a swyddog gweithredol gyda CBC Sports.[18]

Cyfnewid y ffagl[golygu | golygu cod]

Y cloc yn Vancouver yn cyfrif lawr yr amser hyd agor y Gemau Olympaidd.

Yn ôl traddodiad, dechreuodd y ffagl Olympaidd ei daith yn Olympia, Gwlad Groeg, safle'r Gemau Olympaidd cyntaf, a cludwyd i'r stadiwm yn y ddinas lle bydd y Gemau'n cael eu cynnal mewn pryd ar gyfer y seremoni agoriadol.

Tanwyd fflam y ffagl ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 ar 22 Hydref 2009.[19] Teithiodd o Wlad Groeg, dros Begwn y Gogledd i Arctig Uwch Canada ac ar draws y West Coast i Vancouver. Teithiodd y ffagl tua 45,000 cilometr ar draws Canada mewn 106 diwrnod, gan wneud hon y daith gyfnewid hiraf o fewn un gwlad yn yr hanes Olympaidd. Cludwyd y ffagl Olympaidd gan tua 12,000 o Ganadiaid gan gyrraedd 1,000 o gymunedau.[20][21]

Roedd y cludwyr ffagl enwog yn cynnwys Arnold Schwarzenegger,[22] Steve Nash,[23] Matt Lauer,[24] Justin Morneau,[25] Michael Buble,[26] Bob Costas,[27] Shania Twain,[28] ac enwogion hoci gan gynnwys Sidney Crosby,[29] Wayne Gretzky,[30] a chapteiniau'r ddau dîm Vancouver Canucks a aeth i rowndiau derfynol y Cwpan Stanley: Trevor Linden (1994) a Stan Smyl (1982).

Y gemau[golygu | golygu cod]

Cyfranogwyr[golygu | golygu cod]

Map y byd yn dangos y timau a gyfranogodd.

Anfonwyd timau i'r gemau gan 82 Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol.[31] Cyfranogodd Ynysoedd Caiman, Colombia, Ghana, Montenegro, Pacistan, Periw a Serbia yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf am y tro cytaf y flwyddyn hon. Dychwelodd Jamaica, Mecsico a Moroco i'r gemau hefyd, wedi iddynt fethu Gemau Olympiadd y Gaeaf 2006. Ceisiodd Tonga gyfranogi am y tro cyntaf gan anfon un cystadleuwr ar gyfer y gystadleuaeth luge, gan ddenu sylw'r wasg, ond cafodd ddamwain yn y rownd olaf o gymhwyso.[32] Cymhwysodd dau athletwr o Lwcsembwrg,[33] ond ni gymeront ran gan na gyrrhaeddodd un ohonynt y meini prawf a osodwyd gan y POC,[34] ac anafwyd y llall cyn i'r gemau ddechrau.[35]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Cystadleuwyd pymtheg o chwaraeon yng Ngemau Olympaidd 2010. Categoreiddwyd wyth fel chwaraeon iâ, sef: bobsled, luge, ysgerbwd, hoci iâ, sglefrio ffigur, sglefrio cyflymder, sglefrio cyflymder trac byr a cyrlio. Y tri chwaraeon a gategoreiddwyd fel chwaraeon eira Alpaidd oedd: sgio Alpaidd, sgio arddull-rhydd a eirafyrddio. Y pedwar chwaraeon a gategoreiddwyd fel chwaraeon Llychlyniadd oedd: biathlon, sgio traws gwlad, naid sgio a'r cyfuniad Llychlynaidd.

  • Mae'r rhifau yn y cromfachau'n dynodi sawl cystadleuaeth a gynhelir ym mhob chwaraeon.

Cynhaliwyd seremonïau agoriadol a cloi ar gyfer y cystadlaethau a gategorieddwyd fel chwaraeon iâ (ac eithrio bobsled, luge ac ysgerbwd) yn Vancouver a Richmond. Cynhaliwyd seremonïau y chwaraeon Llychlynaidd yn Callaghan Valley i'r dwyrain o Whistler, a'r cystadlaethau sgio Alpinaidd ar Fynydd Mountain (Creekside) a'r cystadlaethau llithro (bobsled, luge ac ysgerbwd) ar Fynydd Blackcomb. Mynydd Cypress (a leolir yn Cypress Provincial Park yn West Vancouver) a westeiodd y sgio arddull-rhydd (awyrol, mogwl, a sgio traws gwlad), a'r eirafyrddio (hanner-peip, slalom mawr cyfochrog, ac eirafyrddio traws gwlad).

Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 oedd y Gemau Olympaidd cyntaf i hoci iâ dynion a merched gael ei gynnal ar lawr sglefrio culach, maint NHL,[60] gan fesur 200 × 85 troedfedd (61 × 26 metr), yn hytrach na'r maint safonol rhyngwladol o 200 × 98.5 troedfedd (61 × 30 metr). Cynhaliwyd y hoci iâ yn General Motors Place, cartref Vancouver Canucks yr NHL a ailenwyd yn Canada Hockey Place dros ystod y gemau. Arbedodd hyn $10 miliwn o gostau a buasai wedi bod yn gysylltiedig â adeiladu llawr sglefrio newydd, a galluogodd i 35,000 o wylwyr ychwanegol i fynychu'r cystadlaethau hoci iâ.[60] Ond mynegodd rhai gwledydd Ewropeaidd bryder y buasai'r penderfyniad hwn yn rhoi mantais i'r chwaraewyr o Ogledd America a fu wedi tyfu i fyny'n chwarae ar y lloriau llai.[61]

Cafodd nifer o gystadlaethau eu crybwyll i gael eu cynnwys yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010.[62] Ar 28 Tachwedd 2006, pleidleisiodd Bwrdd Gweithredol y PORh, yn eu cyfarfod yn Ciwait, i gynnwys sgio traws gwlad yn y rhaglen swyddogol.[63] Cymeradwywyd hyn yn ddiweddarach gan Bwyllgor Olympaidd Vancouver (VANOC).[64]

Cafodd y cystadlaethau canlynol hefyd eu cynnig ond ni chawsant eu cynnwys:[65]

Daeth y mater o eithrio naid sgio merched o'r gemau i Goruchaf Lys British Columbia yn Vancouver rhwng 21–24 Ebrill 2009, a dyfarnwyd ar 10 Gorffennaf 2009 i eithrio naid sgio merched o Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010.[66] Gwadwyd y cais am apêl i Goruchaf Lys Canada ar 22 Rhagfyr 2009, a daeth hyn a unrhyw obaith y byddai'r cystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Vancouver yn 2010 i ben.[67] Er mwyn ceisio lleddfu effaith yr eithriad, gwahoddodd drefnwyr VANOC ferched o Ganada i gystadlu ym Mharc Olympaidd Whistler ar gyfer cystadlaethau eraill, gan gynnwys y Cwmpan Cyfandirol ym mis Ionawr 2009.[66] Mae ymdrch ar y gweill i gynnwys naid sgio merched yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi, Rwsia.[68]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gov. Gen. Jean to open 2010 Games: PM", Edmonton Sun, Canadian Press, 2009-06-27.
  2.  IOC rejects Quebec City request. Slam! Olympics (1999-03-23). Adalwyd ar 2009-01-07.
  3. "Vancouver to host 2010 Winter Olympics", CBBC Newsround, 2003-07-02.
  4. "Construction of Olympic Venues", Olympics 2010.
  5.  New Vancouver 2010 Sports Venues Completed. Crsportsnews.com (2009-02-24). Adalwyd ar 2010-01-10.
  6.  Vancouver 2010 sport venues completed on time and within $580-million budget. Vancouver Olympic/Paralympic Centre opens today as a model of sustainable building - News Releases : Vancouver 2010 Winter Olympics and Paralympics (2009-02-19). Adalwyd ar 2010-01-10.
  7.  2010 bid book an Etch-A-Sketch. The Tyee (2 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 2009-07-02.
  8.  Olympic security estimated to cost $900M. CBC News (19 Chwefror 2009).
  9.  Dave Zirin (2010-01-25). As Olympics near, people in Vancouver are dreading Games. Sports Illustrated, CNN. Sportsillustrated.cnn.com. Adalwyd ar 2010-02-07.
  10. "Winter Olympics all wet?: Vancouver has the mildest climate of any Winter Games host city", Vancouver Sun, 2003-07-09.
  11. 11.0 11.1  GM Place to get new name for 2010. CTV News (2008). Adalwyd ar 2009-01-07.
  12. "Measuring the Power of Sport", The Globe and Mail.
  13. Josh Wingrove. "Vancouver Olympic designer dies at age 40", Globe and Mail, CTV Television Network, 2009-08-21.
  14. "2010 Vancouver Olympics' mascots inspired by First Nations creatures", CBC Sports, 2007-11-27.
  15. Bret Evans. "14 circulating coins included in 2010 Olympic program", Canadian Coin News, 23 Ionawr–5 Chwefror 2007.
  16.  Hollie Shaw (20 Chwefror 2009). What's Your Olympic Moment?. The National Post. Adalwyd ar 2009-02-26.
  17.  OBSV Introduction. Obsv.ca. Adalwyd ar 2010-01-10.
  18.  Nancy Lee leaving CBC Sports. cbc.ca (10 Hydref 2006).
  19. "Olympic flame lit for Vancouver Games", Russia Today, 22 Hydref 2009.
  20. "Funding for 2010 Olympics torch relay to focus on local events", CBC News, 2009-04-30.
  21. "2010 Olympic Torch relay general info", CTV, CTV, 11 Chwefror 2010.
  22. "Governator takes the flame in Stanley Park", Vancouver Sun, Canwest Publishing, 13 Chwefror 2010.
  23. "Nash, Rees, Set to Run with Torch", Victoria Times Colonist, Canwest Publishing, 11 Chwefror 2010.
  24. "For the next Hour, I am pure Canadian", Vancouver 24hr news, Canoe, 11 Chwefror 2010.
  25. "Healthy Morneau excited to carry Torch", mlb.com, mlb.com, 11 Chwefror 2010.
  26. "Michael Buble, Jann Arden to join in Olympic torch ceremony", vancouversun.com, Canwest Publishing, 11 Chwefror 2010.
  27. "Torchbearer 102 Bob Costas carries the flame in Burnaby", vancouver2010.com, vancouver2010.com, 1 Ionawr 2010.
  28. "Shania Twain carries Olympic torch", The Canadian Press, Canadian Broadcasting Corporation, 1 Ionawr 2010.
  29. "Reserved, restrained, and rocking with Sid the Kid", ctvolympics.ca, The Globe and Mail, 11 Chwefror 2010.
  30. "Pressing questions as Olympic hockey beckons", 14 Chwefror 2010.
  31.  Quick Facts about the Vancouver 2010 Winter Games. VANOC. Adalwyd ar 2008-09-01.
  32.  Tongan athlete narrowly misses out on Winter Olympics. Australian Broadcasting Corporation (1 Chwefror 2010).
  33. 33.00 33.01 33.02 33.03 33.04 33.05 33.06 33.07 33.08 33.09 33.10 33.11 33.12 33.13 33.14 33.15 33.16 33.17 33.18 33.19 33.20 33.21 33.22 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-02-15. Cyrchwyd 2010-02-17.
  34.  Sport | Kari Peters bleibt zu Hause. wort.lu. Adalwyd ar 2010-02-07.
  35.  Sport | Stefano Speck fährt nicht nach Vancouver. wort.lu. Adalwyd ar 2010-02-07.
  36. 36.00 36.01 36.02 36.03 36.04 36.05 36.06 36.07 36.08 36.09 36.10 36.11 36.12 36.13 36.14 36.15 36.16 36.17 36.18 36.19 36.20 36.21 36.22 36.23 36.24 36.25 36.26 "Vancouver Olympics – Athletes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-25. Cyrchwyd 2010-12-25.
  37. 37.0 37.1 37.2 37.3 37.4 37.5  Alpine team takes fall at 2010 Games – Vancouver 2010 Olympics. thestar.com (2009-06-10). Adalwyd ar 2010-01-10.
  38. 38.0 38.1 38.2 38.3 38.4  Germany, Norway round out 2010 Olympic men's hockey. TSN (2009-02-08). Adalwyd ar 2009-02-09.
  39.  Athletes : Vancouver 2010 Winter Olympics. Vancouver2010.com. Adalwyd ar 2010-02-07.
  40. 40.0 40.1 40.2 40.3 40.4 40.5  ISU Figure skating qualification system.
  41. 41.0 41.1 41.2 41.3 41.4 41.5  2009 Figure Skating World Championship results.
  42.  Saiba os brasileiros que podem ir a Vancouver.
  43.  Bulgaria received one more quota for the games. Топспорт. Adalwyd ar 2010-02-13.
  44.  Travers is snow joke. Adalwyd ar 2009-11-05.
  45.  Olympic Qualification. World Curling Federation. Adalwyd ar 2009-02-09.
  46.  Suomen Olympiajoukkueeseen Vancouver 2010 -talvikisoihin on valittu 94 urheilijaa – kahdella miesalppihiihtäjällä vielä mahdollisuus lunastaa paikka joukkueessa – Suomen Olympiakomitea. Noc.fi. Adalwyd ar 2010-02-07.
  47.  108 Français à Vancouver – JO 2010 – L'EQUIPE.FR. Vancouver2010.lequipe.fr. Adalwyd ar 2010-02-07.
  48. "Ghana's 'Snow Leopard' qualifies to ski in 2010 Winter Olympics", CBC News.
  49.  Short Track Speed Skating entry list (24 Tachwedd 2009). Adalwyd ar 2009-11-26.
  50.  Tashi and Jamyang qualify for 2010 Olympic Winter Games (18 Mawrth 2009). Adalwyd ar 2009-03-18.
  51. 51.0 51.1  Lambiel crushes competition at Nebelhorn. Adalwyd ar 2009-09-26.
  52.  North Korea – CTV Olympics. Ctvolympics.ca (2010-01-22). Adalwyd ar 2010-02-07.
  53.  Sports | Mongolia Web News. Mongolia-web.com. Adalwyd ar 2010-01-10.
  54.  Genomineerden. Nocnsf.nl. Adalwyd ar 2010-01-10.
  55. (Norwyeg) Anders Rekdal tatt ut til OL i Vancouver på overtid. Olympiatoppen (2010-01-29). Adalwyd ar 2010-02-08.
  56. (Pwyleg) Wystartujemy w Vancouver (19 Mawrth 2009). Adalwyd ar 2009-03-19.
  57. 57.0 57.1  Athletes : Vancouver 2010 Winter Olympics. Vancouver2010.com. Adalwyd ar 2010-02-07.
  58.  OS-truppen komplett(erad) – Olympic Team complete(d). SOC (2010-12-01). Adalwyd ar 2010-12-01.
  59.  Vancouver 2010 Olympic Winter Games Qualifications | News | USA Luge. Luge.teamusa.org. Adalwyd ar 2010-02-07.
  60. 60.0 60.1  VANOC shrinks Olympic ice. Slam! Sports (2006-06-06). Adalwyd ar 2009-01-07.
  61. "2010 Olympic hockey will be NHL-sized", CBC News, 2006-06-08.
  62. "Ski-cross aims for Vancouver 2010", BBC Sport, 2006-06-12.
  63. "Ski-cross gets approved for 2010", BBC Sport, 2006-11-28.
  64.  Vancouver 2010: In good shape with positive progress on media accommodation. International Olympic Committee (2007-03-09). Adalwyd ar 2009-01-07.
  65.  Olympic programme updates. International Olympic Committee (2006-11-28). Adalwyd ar 2009-01-07.
  66. 66.0 66.1  Vancouver 2010 Statement of BC Supreme Court Decision on Women's Ski Jumping at the 2010 Olympic Winter Games. Vancouver2010.com (10 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2009.
  67.  Supreme Court spurns women ski jumpers. cbc.ca (22 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2009.
  68.  FIS advocates women's ski jump. canada.com (4 Medi 2009). Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2009.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]