Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010
Cafodd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 ei gynnal ar 6 Mai, 2010 er mwyn ethol Aelodau Seneddol. Cystadlodd pleidiau gwleidyddol am 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig sef îs-dŷ Senedd y Deyrnas Unedig, oherwydd ni chaiff aelodau Tŷ'r Arglwyddi eu hethol. O'i gymharu â'r etholiad cyffredinol blaenorol cafwyd pedair sedd ychwanegol. Cyhoeddwyd yr etholiad gan Gordon Brown, Prif Weinidog y DU, ar 6 Ebrill 2010 a datgorffwyd y senedd ar 12 Ebrill er mwyn dechrau ar yr ymgyrchoedd etholiadol. Digwyddodd y pleidleisio rhwng 7.00 yb a 10.00 yh. Cynhaliwyd rhai etholiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar yr un diwrnod.
Nod y Blaid Lafur oedd dychwelyd i'w pedwerydd tymor mewn pŵer ac adfer y cefnogaeth a gollwyd ers 1997.[1] Anelodd y Blaid Geidwadol at adfer eu safle dominyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddynt golli nifer o seddau yn ystod y 1990au, ac i gipio safle'r Blaid Lafur fel y blaid lywodraethol. Gobeithiodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill mwy o seddau wrth y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr; yn ddelfrydol, buasent hwythau eisiau ffurfio llywodraeth eu hunain, er nod mwy realistig fyddai i fedru ffurfio llywodraeth clymbleidiol.
Canlyniadau [golygu]
| Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 | |||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Seddi | Enillion | Colliadau | Ennill/Colli Net | Seddi % | Pleidleisiau % | Pleidleisiau | ±% | |
| Ceidwadwyr | 305 | 100 | 3 | +96 | 47.0 | 36.1 | 10,683,787 | +3.8% | |
| Llafur | 258 | 3 | 94 | −91 | 39.7 | 29.0 | 8,604,358 | −6.2% | |
| Democrat Rhydd. | 57 | 8 | 13 | −5 | 8.8 | 23.0 | 6,827,938 | +1.0% | |
| Plaid Annibyniaeth y DU | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.0 | 3.1 | 917,832 | +0.9% | |
| BNP | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.0 | 1.9 | 563,743 | +1.2% | |
| Plaid Genedlaethol yr Alban | 6 | 0 | 0 | 0 | 0.9 | 1.7 | 491,386 | +0.1% | |
| Gwyrdd | 1 | 1 | 0 | +1 | 0.2 | 1.0 | 285,616 | −0.1% | |
| Sinn Féin | 5 | 0 | 0 | 0 | 0.8 | 0.6 | 171,942 | −0.1% | |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd | 8 | 0 | 1 | −1 | 1.2 | 0.6 | 168,216 | −0.3% | |
| Plaid Cymru | 3 | 1 | 0 | +1 | 0.5 | 0.6 | 165,394 | −0.1% | |
| Sosialiaid Democrataidd a Llafur | 3 | 0 | 0 | 0 | 0.5 | 0.4 | 110,970 | −0.1% | |
| Plaid Unoliaethol Ulster | 0 | 0 | 1 | −1 | 0.0 | 0.3 | 102,361 | −0.1% | |
| Democratiaid Lloegr | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.0 | 0.2 | 64,826 | +0.2% | |
| Plaid Cynghrair Gog. Iwerddon | 1 | 1 | 0 | +1 | 0.2 | 0.1 | 42,762 | 0.0% | |
| Respect | 0 | 0 | 1 | −1 | 0.0 | 0.1 | 33,251 | −0.1% | |
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Brown would 'renew' Labour Party (5 Ionawr 2007).
|
|
|
|
|
|