Senedd Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adeilad Senedd Ewrop yn Strasbwrg


Senedd ddeddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd). Fe'i sefydlwyd yn Strasbwrg o dan dermau protocol Cytundeb Amsterdam, ond mae ei phwyllgorau yn cwrdd ym Mrwsel gan fod Cyngor Gweinidogion Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn y ddinas honno hefyd.

Mae gan gyfundrefnau eraill eu seneddau hefyd (e.e. NATO, Undeb Gorllewin Ewrop a OSCE), ond dim ond Senedd Ewrop a etholir gan gyhoedd pob aelod-wladwriaeth. Mae senedd yr aelod-wladwriaethau'n apwyntio aelodau i seneddau'r cyfundrefnau eraill. Caiff yr aelodau eu hethol am gyfnod o bum mlynedd.

Grwpiau gwleidyddol[golygu]

Dyma restr o'r grwpiau o bleidiau yn y senedd a'r nifer o seddi sydd ganddynt ar hyn o bryd (ers Mehefin 2009):

Sylwch: Nid yr un peth â'r pleidiau cenedlaethol ydyw grwpiau pleidiau Senedd Ewrop, er bod cysylltiad rhyngddyn nhw.

Cynrychiolaeth[golygu]

Dylanwad cymharol pleidleiswyr pob wlad ar ôl Cytundeb Nice, yn cynnwys aelod-wladwriaethau newydd (Ffynhonnell: Spiegel Online):
Gwlad Pob. (miw.)  ASEau  Pob./MEP  Dylanwad

Lwcsembwrg 0.4     6 66667 12.42
Malta 0.4     5 80000 10.53
Cyprus 0.8     6 133333 6.21
Estonia 1.4     6 233333 3.54
Slofenia 2.0     7 285714 2.89
Latfia 2.4     9 266667 3.10
Iwerddon 3.7     13 284615 2.91
Lithwania 3.7     13 284615 2.91
Y Ffindir 5.2     14 371429 2.22
Denmarc 5.3     14 378571 2.18
Slofacia 5.4     14 385714 2.14
Awstria 8.1     18 450000 1.84
Sweden 8.9     19 468421 1.76
Portiwgal 9.9     24 412500 2.00
Hwngari 10.0     24 416667 1.98
Gwlad Belg 10.2     24 425000 1.94
Y Weiriniaeth Tsiec 10.3     24 429167 1.92
Gwlad Groeg 10.6     24 441667 1.87
Yr Iseldiroedd 15.8     27 585185 1.41
Gwlad Pwyl 38.6     54 714815 1.15
Sbaen 39.4     54 729630 1.13
Yr Eidal 57.7     78 739744 1.11
Ffrainc 59.1     78 757692 1.09
Y Deyrnas Unedig 59.4     78 761538 1.08
Yr Almaen 82.1     99 828283 1.00

Cyfanswm 450.8     732 615846 1.35

Mae Senedd Ewrop yn cynrychioli'r 450 miliwn o bobl sydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar hyn o bryd mae 732 o aelodau seneddol (ASE).

Llywyddion Senedd Ewrop[golygu]

Llywyddion y Cynulliad Seneddol, 1958-1962[golygu]

Llywyddion Senedd Ewrop, 1962 i heddiw[golygu]

Gweler hefyd[golygu]