Alain Poher
Oddi ar Wicipedia
| Alain Poher | |
|
Arlywydd y Senedd Ffrainc
|
|
| Cyfnod yn y swydd 1968 – 1992 |
|
| Rhagflaenydd | Gaston Monnerville |
|---|---|
| Olynydd | René Monory |
|
Arlywydd Ffrainc Interim
|
|
| Cyfnod yn y swydd 29 Ebrill 1969 – 20 Mehefin 1969 |
|
| Prif Weinidog | Maurice Couve de Murville |
| Rhagflaenydd | Charles de Gaulle |
| Olynydd | Georges Pompidou |
| Cyfnod yn y swydd 2 Ebrill 1974 – 27 Mai 1974 |
|
| Rhagflaenydd | Georges Pompidou |
| Olynydd | Valéry Giscard d'Estaing |
|
|
|
| Geni | 17 Ebrill 1909 Ablon-sur-Seine, Val-de-Marne |
| Marw | 9 Rhagfyr 1996 Paris, |
| Plaid wleidyddol | Democratiaid Canolog |
| Priod | Henriette Tugler |
Gwleidydd Ffrengig canolbleidiol oedd Alain Émile Louis Marie Poher (17 Ebrill, 1909 – 9 Rhagfyr, 1996). Yn wreiddiol, bu'n gysylltiedig â'r Mudiad Gweriniaethol Poblogaidd ac yn ddiweddarach gyda'r Democratiaid Canolog. Gwasanaethodd fel Seneddwr ar gyfer Val-de-Marne rhwng 1946 a 1995. Ef oedd Arlywydd y Senedd o 3 Hydref, 1968 tan 1 Hydref, 1992. Yn rhinwedd ei swydd, gwasanaethodd ei wlad fel arlywydd interim ar ddwy achlysur. Fel ymgeisydd yn etholiadau arlywyddol 1969, cafodd ei faeddu gan Georges Pompidou yn yr ail rownd.