Llywodraeth leol yng Nghymru
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Isadrannau Cymru
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Rhennir Cymru yn 22 o awdurdodau unedol, sef siroedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd (gyda statws sirol). Cynrychiolir yr awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r siroedd hyn gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Fe benodir Arglwydd Raglaw gan y Frenhines i'w chynrychioli yn yr wyth sir gadwedig.
Cynnwys |
Dinasoedd [golygu]
Pum dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â statws dinas, mae gan gymunedau Bangor a Tyddewi statws dinas a gadarnheir gan freintlythyrau.
Yn hanesyddol roedd Llanelwy yn ddinas, gan iddi fod yn ganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas yn Encyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd gyngor cymuned Llanelwy am yr un statws trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.[1]
Awdurdodau unedol [golygu]
Cymunedau [golygu]
Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru.
Siroedd cadwedig [golygu]
Pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1974 diddymwyd yr hen siroedd gweinyddol a chreuwyd wyth sir newydd yn eu lle. O'r siroedd hyn, mae Powys a Gwynedd yn dal i fodoli ond gyda newidiadau i'w ffiniau, yn enwedig yn achos Gwynedd a chollodd Ynys Môn ac a welodd yr ardaloedd gogledd-ddwyreiniol yn mynd yn rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy. Mae siroedd 1974-1996 yn cael eu disgrifio'n swyddogol fel siroedd cadwedig ar gyfer rhai pwrpasau seremonïol ond heb unrhyw ran mewn llywodraeth leol.
Dyma'r siroedd:
Heddluoedd a gwasanaethau tân [golygu]
Heddluoedd [golygu]
Ceir pedwar heddlu yng Nghymru:
Gwasanaethau tân ac achub [golygu]
Ceir tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru:
Gweler hefyd [golygu]
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cymunedau Cymru (Trefi a Chymunedau Cymru)
- Rhestr Siroedd a Dinasoedd Cymru yn ôl y canran o siaradwyr Cymraeg
- Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Beckett, J V (2005). City Status in the British isles, 1830 - 2002. Aldershot: Ashgate Publishing, tud. 133 - 135. ISBN 0754650677