Barn (cylchgrawn)
Cylchgrawn Cymraeg materion cyfoes yw Barn, a sefydlwyd yn 1962. Mae'n fisolyn sydd wedi rhedeg i dros 500 rhifyn hyd yn hyn. Emlyn Evans oedd y golygydd cyntaf ac fe'i cyhoeddid gan Llyfrau'r Dryw, Llandybïe (ac Abertawe yn ddiweddarach). Ei olygyddion presennol ydi Vaughan Hughes a Menna Baines.
Mae gan y cylchgrawn le amlwg yn hanes yr iaith Gymraeg a'r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru yn ail hanner yr 20fed ganrif, yn arbennig dan olygyddiaeth Alwyn D. Rees. Adlewyrchai ei gynnwys a'i safbwynt golygyddol beiddgar ymdrechion Cymdeithas yr Iaith i sicrhau Deddf iaith newydd, y twf yng nghefnogaeth Plaid Cymru, yr ymgyrch llosgi tai haf a materion eraill. Bu Prys Morgan yn ddirprwy olygydd y Barn o 1966 hyd 1973.
Nid safbwyntiau cenedlaetholgar yn unig sy'n cael eu mynegi yn y cylchgrawn, ac mae aelodau o'r pleidiau Prydeinig wedi cael eu gwahodd i gyfrannu erthyglau, gan gynnwys cyfieithiad erthygl gan Chris Bryant hyd yn oed. Mae materion Prydeinig a rhyngwladol yn cael eu trafod hefyd, ac yn y blynyddoedd diweddar mae pynicau ysgafnach megis celf, teithio, ffilm a cherddoriaeth yn cael lle yn y cylchgrawn.
Golygyddion [golygu]
- Emlyn Evans
- Aneirin Talfan Davies
- Alwyn D. Rees
- Gwyn Erfyl
- Menna Baines (1991–1996)[1]
- Simon Brooks
- Dyfrig Wynn Jones
- Vaughan Hughes a Menna Baines
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 12 Awst 2012