Llyr Huws Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
Llŷr Huws Gruffydd
AS
Arweinydd Plaid Cymru
(dros dro)
Mewn swydd
10 Mai 2023 – 16 Mai 2023
Rhagflaenwyd ganAdam Price
Dilynwyd ganRhun ap Iorwerth
Aelod o Senedd Cymru
dros Rhanbarth Gogledd Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2011
Manylion personol
Ganwyd (1970-09-25) 25 Medi 1970 (53 oed)
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Alma materPrifysgol Aberystwyth

Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Llyr Huws Gruffydd, a adnabyddir weithiau fel Llyr Hughes Griffiths (ganed 25 Medi 1970). Mae'n Aelod o'r Senedd dros Etholaeth ranbarthol Gogledd Cymru.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mynychodd Gruffydd Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ei yrfa fel gweithiwr ieuenctid, gan ddod yn Uwch Swyddog Datblygu gydag Asiantaeth Ieuenctid Cymru a Phrif Swyddog dros Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Ieuenctid Cymru.

Mae'n byw ger Rhuthun yn Sir Ddinbych ac hyd ei ethol ym Mai 2011, bu'n gweithio yn Llandudno fel Swyddog Cyfathrebu Cymru Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyn hynny, bu'n rheolwr gyda chwmni datblygu economaidd Menter a Busnes.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

O 1999 hyd 2003, gweithiodd Gruffydd fel ymchwilydd a swyddog y wasg dros Aelodau Senedd Ewrop, Jill Evans ac Eurig Wyn. Ef hefyd oedd cydlynydd ymgyrch cenedlaethol Dafydd Wigley, ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999, pan fu Wigley yn Llywydd Plaid Cymru.

Daeth o fewn 400 pleidlais o gipio sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro oddi ar Christine Gwyther yn 2003, pan fu'n ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr etholaeth.

Wedi symud i fyw i Sir Ddinbych yn 2004, ef oedd ymgeisydd dros Orllewin Clwyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, gan gynyddu canran y blaid o'r pleidleisiau o dros 50% ac ennill y tro mwyaf yn y wlad tuag at Plaid.

Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011, etholwyd yn aelod dros Ranbarth Gogledd Cymru, gyda 21% o'r bleidlais.[2]

Yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru ym Mai 2023, daeth Gruffydd yn arweinydd dros dro.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Llyr Hughes Gruffydd, AC. Llywodraeth Cymru.
  2.  Election results for North Wales - National Assembly for Wales Regional Elections 2011. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (5 Mai 2011).
  3. "Llyr Gruffydd i fod yn arweinydd Plaid Cymru dros dro". BBC Cymru Fyw. 2023-05-11. Cyrchwyd 2023-05-11.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Janet Ryder
Aelod o'r Senedd dros Rhanbarth Gogledd Cymru
2011 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Adam Price
Arweinydd Plaid Cymru (dros dro)
Mai 2013 – Mehefin 2013
Olynydd:
Rhun ap Iorwerth