Plaid Werdd Cymru a Lloegr
Plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru a Lloegr (Saesneg: Green Party of England and Wales). Mae'n aelod o Blaid Werdd Ewrop a'r mudiad Gwyrdd rhyngwladol.
Mae'r blaid yn gweithredu yng Nghymru dan yr enw 'Plaid Werdd Cymru', sy'n ymreolaethol o fewn Plaid Werdd Cymru a Lloegr.
Cynnwys |
Plaid Werdd Cymru [golygu]
Cangen lled-annibynnol y Blaid Werdd Cymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru. Mae gan y Blaid Werdd Cymru a Lloegr 126 cynghorwyr ond does dim un yng Nghymru. Ond mae un cynghorydd Gwyrdd ar gyngor Tref Mynwy sef y Faeres Ann Were a etholwyd i'r swydd ym Mai 2009. Arweinydd y Blaid yng Nghymru yw Jake Griffiths.
Cyd-weithio â Phlaid Cymru [golygu]
Mae'n bosibl cysidro Cynog Dafis fel aelod seneddol cyntaf i'r Blaid Werdd gan fod cytundeb rhwng y pleidiau yng Ngheredigion. Roedd Cynog yn gefnogol iawn i syniadau gwyrdd fel y "Bunt Werdd" ac roedd cefnogaeth y gwyrddion yn bwysig mewn etholaeth ymylol. Cynrychiolodd Etholaeth Ceredigion a Gogledd Sir Benfro i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd o Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 tan 2000. Mae aelodau o Blaid Cymru yn Llundain wedi helpu'r Gwyrddion yn etholiad cyffredinol 2010, e.e. Rob Sciwen Davies yn Nwyrain Llundain a Petroc ap Seisyllt yn Lewisham.[angen ffynhonnell] Adlewyrchiad yw hyn o'r berthynas rhwng y dwy blaid yn Senedd Ewrop fel cyd aelodau o'r EPA, clymblaid o bartïon rhanbarthol a gwyrddion. Ar hyn o bryd Jill Evans o Blaid Cymru yw arweinydd y Gwyrddion-Cynghrair Rydd Ewrop yn Senedd Ewrop, ac felly yn arweinydd Ewropeaidd y Gwyrddion.
Swyddogion a Changhennau ym Mai 2010 [golygu]
- Ysgrifenydd Cyffredinol: John Matthews
- Swyddog y Wasg: Jake Griffiths
- Aelodaeth: Owen Clarke
- Gwyrddion Ifainc: Sam Coates
- Caerdydd a'r Fro: Jake Griffiths
- Ceredigion : Chris Simpson
- Gwent: Diane Howell
- Gogledd Cymru: Joe Blakesley
- Abertawe: Keith Ross
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) blog
- (Saesneg) maniffesto