Lewisham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lewisham
Lleoliad Lewisham yn Llundain
Poblogaeth 248,922 (2001)[1]
Grid OS TQ385755
Ardal Llundain Fwyaf
Gwlad Lloegr

Ardal yn ne-ddwyrain Llundain, Lloegr yw Lewisham, ac yn brif dref o fewn Bwrdeistref Llundain Lewisham, er bod pencadlys y cyngor yn Catford rhyw milltir i'r de. Mae Caerdydd 220 km i ffwrdd o Lewisham.

Hanes[golygu]

Prif stori tarddiad yr enw yw y cafod ei sefydlu gan un o lwyth y Jutiaid, Leof, a losgodd ei gwch rhywle ger eglwys y plwyf St Mary, (Ladywell) - diwedd y llanw i fyny o'r afon Tafwys, yn y chweched ganrif. Ond yn ôl yr etymolegydd , Daniel Lysons (1796):

"In the most ancient Saxon records this place is called Levesham, that is, the house among the meadows; leswe, læs, læse, or læsew, in the Saxon, signifies a meadow, and ham, a dwelling. It is now written, as well in parochial and other records as in common usage, Lewisham."[2]

Canol Dref Lewisham yn 2005

Saif ar lan aber yr Quaggy a'r Ravensbourne (o bosibl o'r Celtaidd "r afons bourne") sy'n codi o ffynnon Romano -Celtaidd (Caesar's Well, Keston). Mae gan Iarll Dartmouth y teitl etifeddol Viscount Lewisham ers 1711.

Wedi dyfodiad y rheilffordd ym 1849, sefydlwyd maesdrefi cyfforddus yn yr ardal. Roedd tref Lewisham yn rhan o Swydd Caint tan y ffurfiwyd Bwrdeisdrefi Metropolitaidd ym 1889, Swydd Llundain tan 1965. Unwyd Lewisham â'r bwrdeisdref hanesyddol Deptford yn un uned weinyddol ym 1965.

Ym 1944 achoswyd 300 o farwolaethau gan roced V2. Saif plac yn atgof o'r dinistr ar ochr y Canolfan Siopa Lewisham (a agorwyd ym 1977). Ar y pryd siop "Sainsbury" Lewisham oedd yr archfarchnad fwyaf yn Ewrop. Mae Tŵr Cloc enwog yng nghanol y dre a osodwyd ym 1900 i ddathlu Jiwbili Diamwnt Brenhines Fictoria ym 1897. Heddiw mae'n enwog am yr orsaf Heddlu fwyaf yn Ewrop. Adeilad mwyaf y dref yw'r wybrengrafwr Citibank sy'n aros yn wag fel canolfan argyfwng i bencadlys y banc yn y Docklands.

Ym 1977, roedd Lewisham yn y newyddion oherwydd Brwydr Lewisham, sef y terfysgoedd gwrth-ffasgaidd mwyaf ers Brwydr Cable Street ym 1936. Daeth dros 10,000 i wrthwynebu gorymdaith gan y National Front.

Trafnidiaeth[golygu]

Lewisham, hwb trafnidiaeth o bwys

Hwb trafnidiaeth o bwys ydy Lewisham ar ddechrau'r A20 o'r A2 tua Dover a'r A21 i Hastings. Mae gorsaf bws mawr a gorsaf drenau brysur Lewisham - Gorsaf Reilffordd gyda hyd at 24 tren yr awr. Yr orsaf olaf yw' Docklands Light Railway. Mae llinell tiwb hefyd yn New Cross sy'n cael ei ymestyn fel rhan o'r 'East London Line extension'.

Damwain Reilffordd Lewisham[golygu]

Ym 1957, gwelodd Lewisham un o ddamweiniau trenau gwaethaf Prydain. Ar y 4ydd o Ragfyr, 1957 aeth tren ager llawn cymudwyr drwy'r signalau oherwydd y niwl trwchus (smog) ger gorsaf St. John's (ger y capel Cymraeg). Trawodd dren trydan llawn. Dinistrwyd y trenau, y bont a bu farw 90 o bobl.

Cysylltiad Celtaidd[golygu]

  • Roedd Charles Stewart Parnell yn ymweld â'i feistres Kittie O'Shea yn Tressillian Road, Lewisham. Daeth hyn a'i yrfa wleidyddol i ben a newid cwrs hanes Iwerddon.
  • Mae Capel Cymraeg Lewisham (Methodistiaid Calfinaidd) ar Lewisham Way yn un o ddeg capel sy ar ôl yn Llundain erbyn 2009. Mae'r capel dros gan mlwydd oed ac mae'r gymdeithas Lenyddol yn dal i'w rhedeg. Mae capel Lutheraiadd Almaeneg ei iaith yn Lewisham hefyd - Dietrich Bonhoffer Kirche yn ardal Forest Hill.
  • Mae Dosbarth Cymraeg ers degawd yn Lewisham; mae'r dosbarthiadau wedi eu cynnal gan Community Education Lewisham. Cyfeirwyd atynt mewn araith gan yr AS Adam Price yn cogio bod David Cameron wedi ymuno â dosbarth Cymraeg Lewisham a throi yn Fwdist!
  • Codwyd Cylch Meini yn 2000; nid o dan ddylanwad yr Orsedd ond er mwyn nodi'r mileniwm y crewyd y cylch hwn. Ceir deuddeg o feini o'r Alban, ond yn lle'r maen llog mae cloc haul yn ei ganol. Gosodwyd dau biler enfawr sy'n arwain golau'r wawr ar Alban Hefin i mewn i'r cylch.
  • Derwydd Mae o leiaf un aelod o'r orsedd yn byw yn Lewisham, Petroc ap Seisyllt, darlithydd coleg yn Birkbeck, Prifysgol Llundain.
  • Gwyddelod Mae canolfan llawn amser i'r gymuned Wyddelig yn Catfod lle cynhelir dosbarthiadau Gwyddelig, dawnsio, a grŵpiau cymorth i'r Gwyddelod. Bellach ceir canolfannau tebyg i'r Twrciaid, Tamiliaid a chymunedau eraill.
  • Blackheath gosodwyd plac dwyieithog (Cernyweg/Saesneg) ym 1997 i ddathlu 500 o bobl yn cerdded o o Gernyw i Lundain. Roedd areithiau yn y Gerneweg, gêm rygbi rhwng tîm cenedlaethol Cernyw a thîm Blackheath (un o'r tîmau hynaf yn Lloegr)
  • Penge tarddiad y 'pentref' hwn ar gyrion Lewisham yw Pen Coed - sef ochr y Goedwig Fawr Ogleddol, coedwig enfawr a ymestynwyd o Gaint i gyrion Llundain tan y canol oesoedd.
  • Mae'r Beddau Cymraeg ym mynwent Ladywell yn dyst i'r teuluoedd Cymraeg a oedd yma ers canrif a mwy.

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ystadegau cyfrifiad 2001 Adalwyd 20-07-2009
  2. 'Lewisham', The Environs of London: volume 4: Counties of Herts, Essex & Kent (1796), pp. 514-36. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.asp?compid=45489. Date accessed: 03 October 2007.