Cynulliad Llundain
Oddi ar Wicipedia
Cynulliad rhanbarthol ar gyfer dinas Llundain, prifddinas Lloegr a'r DU, yw Cynulliad Llundain (Saesneg: London Assembly). Sefydlwyd y Cynulliad yn y flwyddyn 2000 ac mae ei bencadlys yn Neuadd Dinas Llundain (City Hall). Mae'r Cynulliad yn cynnwys 25 aelod a etholir trwy'r System Aelod Ychwanegol. Mae'n cwrdd mewn sesiynau llawn bob pythefnos.
Etholir Maer Llundain trwy etholiad ar wahân. Ken Livingstone (Llafur) oedd y maer cyntaf; cafodd ei olynu gan Boris Johnson (Ceidwadwyr) yn 2008. Un o swyddogaethau'r Cynulliad yw arolygu gweithredoedd Maer Llundain, eu cymeradwyo neu eu gwrthwynebu.
Pleidiau presennol[golygu]
| Plaid | Seddi |
|---|---|
| Ceidwadol | 11 |
| Llafur | 8 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | 3 |
| Gwrydd | 2 |
| British National Party | 1 |
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) London Elects: The London Assembly Gwybodaeth am y Cynulliad