Cynulliad Cenedlaethol Cymru
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | |
|---|---|
| Math | |
| Math | Unsiambrog |
| Arweinyddiaeth | |
| Llywydd y Cynulliad | Rosemary Butler AC, Y Blaid Lafur ers 11 Mai 2011 |
| Arweinydd y Tŷ | Jane Hutt AC, Y Blaid Lafur ers 11 Mai 2011 |
| Strwythur | |
| Aelodau | 60 |
| Grwpiau gwleidyddol |
Pleidiau wrthwynebiad
|
| Pwyllgorau |
|
| Etholiadau | |
| Etholiad diwethaf | 5 Mai 2011 |
| Man cyfarfod | |
| Y Senedd, Caerdydd | |
| Gwefan | |
| www.assemblywales.org | |
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
| Cynulliadau | |
|
Tŷ'r Cynulliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
|
| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Rhan o'i waith yw i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[1] Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[2]
Yr enw ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiwn y Cynulliad. Mae 60 o aelodau yn y Cynulliad (Aelod Cynulliad - AC). Mae 40 o'r aelodau yn cynrychioli etholaeth un aelod, ac mae'r 20 sy'n weddill yn cael eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Cânt eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.[2]
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor o bedair blynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003 a 2007.
Dirprwyir pwerau gweithredol y Cynulliad i Brif Weinidog y Cynulliad. Dirprwya'r Prif Weinidog yn ei dro gyfrifoldeb am gyflawni'r swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n ffurfio'r Cabinet. Rheolir gweithgareddau'r Cynulliad gan y Llywydd, sydd ei hun yn Aelod Cynulliad.
Prif gorff ymgynghorol ar gyfer addysg y Cynulliad yw'r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.
Cynnwys |
Grymoedd [golygu]
Grymoedd deddfu [golygu]
Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pwer y lunio deddfau ei hun.
Aelodau'r Cynulliad [golygu]
| Plaid | Mai 2007 | Presennol[3] | |
|---|---|---|---|
| • | Llafur | 26 | 30 |
| Y Ceidwadwyr | 14 | 14 | |
| Plaid Cymru | 15 | 11 | |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | 5 | 5 | |
| Annibynnol | 1 | 0 | |
| Cyfanswm | 60 | ||
Nodir plaid/pleidiau llywodraethol gan fwledi (•)
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Gwybodaeth am y Cynulliad". 2012. http://www.cynulliadcymru.org/abthome.htm. Adalwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ 2.0 2.1 "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. http://wales.gov.uk/about/organisationexplained/nafw/?lang=cy. Adalwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ "Election results 2011: Welsh assembly results in full". 6 Mai 2011. http://www.guardian.co.uk/politics/2011/may/05/welsh-assembly-elections-2011. Adalwyd 30 Ebrill 2012.
Gweler hefyd [golygu]
- Gwleidyddiaeth Cymru
- Rhestr o etholaethau Cymru
- Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
Dolenni allanol [golygu]
| Pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru | ||||||||
|