Ken Livingstone

Oddi ar Wicipedia
Ken Livingstone
Ganwyd17 Mehefin 1945 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Tulse Hill School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, hunangofiannydd, darlledwr Edit this on Wikidata
SwyddMaer Llundain, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, cadeirydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur, y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Sŵolegol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.london.gov.uk Edit this on Wikidata

Gwleidydd Prydeinig yw Kenneth Robert Livingstone, (ganwyd 17 Mehefin 1945). Roedd yn arweinydd ar lywodraeth Llundain ddwywaith; unwaith fel arweinydd Cyngor Llundain Fwyaf, o 1981 hyd 1986 pan ddiddymwyd y Cyngor hwn gan lywodraeth Margaret Thatcher, ac wedyn fel Maer cyntaf Llundain, o 2000 hyd 2008. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol Llafur dros Dwyrain Brent rhwng 1987 a 2000. Cafodd Livingstone ei ddiarddel o'r Blaid Lafur yn 2000, a safodd i lawr o'i swydd AS yn 2001 er mwyn canolbwyntio ar ei rwymedigaethau maerol.

Etholwyd fel Maer Llundain fel ymgeisydd annibynnol wedi i'r Blaid Lafur benderfynu peidio ei ddewis fel eu ymgeisydd hwy yn etholiad Maerol cyntaf. Gadawyd iddo ail-ymuno â'r Blaid Lafur yn Ionawr 2004, ac ef oedd ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur yn etholiad Maerol Mehefin 2004, lle enillodd gyfanswm o 823,380 pleidlais dewis cyntaf ac ail-ddewis. Ar Galan Mai 2008, collodd Livingstone etholiad Maerol i'r ymgeisydd Ceidwadol Boris Johnson, a daeth ei dymor i ben fel Maer Llundain ar 4 Mai 2008. Yn 2012 sefodd eto fel ymgeisydd Llafur i Faer Llundain ond enillodd Johnson ail dymor.[1]

Cafodd ei ddi-arddel o'r Blaid Lafur yn 2016.[2]

Bu'n gweithio fel cynghorydd cynllunio trefol ar gyfer Hugo Chávez.[3]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Livingstone yn Lambeth, Llundain, Lloegr, yn fab i Ethel Ada (Kennard), dawnswraig proffesiynol, a Robert Moffat Livingstone, meistr llong yn y Llynges Masnachol.[4] Mae Livingstone wedi disgrifio ei deulu fel "Ceidwadwyr Dosbarth Gweithiol".

Mynychodd Tulse Hill Comprehensive School.[5] Ni basiodd yr arholiad Eleven-plus yn 1956 ond llwyddodd i ennill cwpl o Lefelau-O bethbynnag. Gweithiodd fel technegydd ymchwil cancr rhwng 1962 ac 1970. Hyfforddwyd i fod yn athro, gan ymgymhwyso ym 1973, ond nid yw erieod wedi gweithio fel athro ysgol. Ymunodd a'r Blaid Lafur ym 1968 ar adeg pan oedd yr aelodaeth yn disgyn ac ychydig iawn o aelodau newydd yn ymuno. Cododd yn sydyn trwy'r rhengau, gan fynd ymlaen i gael ei ethol yn gynghorwr Cyngor Bwrdeister Lambeth ym Mai 1971, roedd hefyd yn is-gadeirydd y Pwyllgor Tai o 1971 tan 1973 (gan olynu John Major yn y swydd). Yn etholiadau Cyngor Llundain Fwyaf 1973, enillodd Livingstone sedd Norwood a gwasanaethodd fel is-gadeirydd Rheolaeth Tai o 1974 hyd 1975, cyn cael ei ddiswyddo pan wrthwynebodd y toriadau gwariant a gafodd eu crybwyll gan arweinydd y cyngor, Syr Reg Goodwin. Gwasanaethodd hefyd ar y pwyllgor sensoriaeth ffilm a bu'n annog diddymu sensoriaeth. Wrth i etholiadau 1977 agosáu, sylweddolodd Livingstone y buasai'n anodd iawn iddo ddal gafael ar ei sedd, a llwyddodd yn hytrach i gael ei ddewis fel ymgeisydd dros Gogledd Hackney North a Stoke Newington, sedd ddiogel Llafur, yn dilyn ymddeoliad Dr David Pitt. Cadarnhaodd hyn ei le fel un o'r ychydig gynghorwyr adain-chwith Llafur i aros ar y cyngor.

Ar gyfer yr etholiad nesaf roedd Livingstone wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd dros Hampstead. Yn fuan cyn y dyddiad cau symudodd i Camden, a daeth yn ail fel ymgeisydd seneddol yno yn 1979. Yn Hampstead, collodd o 3,681 pleidlais i ddeiliad y sedd, y Ceidwadwr Geoffrey Finsberg.

Priododd Christine Pamela Chapman ym 1973, ond ysgarodd y ddau ym 1982. Yn ddiweddarach, daeth yn gymar i Kate Allen, sydd erbyn hyn yn bennaeth Amnest Rhyngwladol y Deyrnas Unedig, ond gwahanodd y pâr yn Nhachwedd 2001.[6]

Emma Beal yw ei bartner presennol, sydd hefyd yn reolydd ei swyddfa, mae ganddynt fab, Thomas, a anwyd yn y University College Hospital, Llundain ar 14 Rhagfyr 2002 a merch, Mia, a anwyd yn y Royal Free Hospital, Hampstead ar 20 Mawrth 2004. Mae ganddo hefyd tri phlentyn o'i gyn-berthnasau, daeth hyn ond yn ymwybod i'r cyhoedd yn ystod ei ymgyrch maerol yn 2008.[7] Mae wedi adolygu bwyd i'r Evening Standard a nifer o gylchgronau.[8]

Mae Ken hefyd yn adnabyddus am ei frwdfrydedd am gadw madfallod y dŵr. Mae ganddo hefyd gi defaid Almaenig.[9] Mae wedi bod yn gefnogol iawn i Sw Llundain a rhoddwyd mynediad am ddim i blant Llundain i'r Sw.

Arwain Cyngor Llundain Fwyaf[golygu | golygu cod]

Ym Mai 1981, daeth Llafur i rym yn Llundain ac enillodd Ken yn erbyn arweinydd Llafur Llundain gan 30 plaidlais i 20. Felly roedd yr adain chwith yn rheoli'r Cyngor.

Gostynwyd prisiau bysiau a'r London Underground ond daeth hyn i ben ar ôl colli apêl i Arglwyddi'r Gyfraith yn Rhagfyr 1981.

Gwrthododd llywodraeth Ceidwadol Margaret Thatcher drwy dangos ffigurau'r diwaith ar bosteri anferth ar County Hall, pencadlys y GLC sy'n wynebu Tŷ'r Cyffredin dros y Tafwys. Roedd yn hael i grwpiau ymgyrchu 'Babies Against the Bomb',[10] a chesiodd datagan bod Llundain yn 'Ardal di-Niwclear'. Yn gefnogol i'r IRA ac yn ffrind i'r gymuned hoyw ddaeth 'Red Ken' yn ffigwr amlwg ar y chwith.

Pan enillodd y torïaid ym 1983 penderfynwyd dileu y Cyngor ac ar 15 Rhagfyr 1984, pasiwyd Deddf Llywodraeth Leol 1985. Daeth Cyngor Llundain Fwyaf i ben yn ffurfiol canol nos 31 Mawrth 1986.

Livingstone yn y Senedd[golygu | golygu cod]

Enillodd sedd Dwyrain Brent yn Etholiad Cyffredinol 1987. Roedd ei araith cyntaf yn y senedd ar y pwnc o Fred Holroyd, aelod MI6 yng Ngogledd Iwerddon wrth iddo sôn am MI5 yn cydweithio a'r parafilwyr protestanaidd yn y 1970au. Enillodd le dros dro ar y National Executive Committee ym Medi 1987, ac eto yn 1997 pan gurodd Peter Mandelson i'r safle.

Maer Llundain ar ei newydd wedd[golygu | golygu cod]

Sticer car yn erbyn Tâl Tagfeydd Llundain Red Ken

Ail-ffurfiwyd Cyngor Llundain Fwyaf fel Cynulliad Llundain yn 2000, ac roedd cystadlu rhwng Livingstone a dewis ei blaid Frank Dobson. Dywedodd William Hague wrth Tony Blair yn ystod 'amser cwestiynau': "Why not split the job in two, with Frank Dobson as your day mayor and Ken Livingstone as your nightmare?"[11]

Collodd Ken yr ymgeisyddiaeth, ond enillodd yr etholiad ta waeth, fel ymgeisydd annibynnol gyda 38% o'r bleidlais.

Etholiad Cynulliad Llundain 2004[golygu | golygu cod]

Livingstone yn 2007

Daeth Livingstone yn ôl i'r blaid Lafur yn 2004 er bod Gordon Brown ac eraill wedi ei wrthod.[12] Ac ar 10 Mehefin 2004 enillodd 36% o'r bleidlais i ddod yn Faer eto.

Etholiad 2008[golygu | golygu cod]

Enillodd Boris Johnson gyda 1,168,738 pleidlais, dros Livingstone 1,028,966 - sef gwahaniaeth o 6%. Roedd Johnson yn hael iawn iddo a dywedodd "You shaped the office of mayor. You gave it national prominence and when London was attacked on 7 July 2005 you spoke for London." ac am ei "courage and the sheer exuberant nerve with which you stuck it to your enemies" [13]

Yn Nhachwedd 2003, enwyd Livingstone yn 'Wleidydd y Flwyddyn' gan y Political Studies Association, Ond roedd lawer yn ei gondemnio oherwydd ei bolisïau o breifateiddio'r tiwb a'i ffrindiau anarferol megis Yusuf al-Qaradawi, sy'n Islamydd ffwndamentalaidd, a sgolor a oedd yn wrth-hoyw. Collodd gefnogaeth llawer yn cynnwys yr ymgyrchydd hoyw Peter Tatchell. Roedd al-Qaradawi yn gefnogol o "female genital mutilation, wife-beating, the execution of homosexuals in Islamic states, the destruction of the Jewish people, the use of suicide bombs against innocent civilians and the blaming of rape victims who do not dress with sufficient modesty".[14] ac [15][16]

Gyda gwrthwynebaid o'r chwith a sgandalau gan ei staff fe gollodd lawer o'i rym cyn yr etholiad yn 2008.

Gyrfa wedi 2008[golygu | golygu cod]

Cyflwynydd radio LBC 97.3 gyda Jeni Barnett ac o 28 Awst 2008, yn ymgynghorydd i ddinas Caracas, Feneswela.

Bwygraffiadau[golygu | golygu cod]

  • John Carvel (1984), Citizen Ken: Biography of Ken Livingstone, Chatto and Windus
  • Andrew Hosken (2008), Ken: The Ups and Downs of Ken Livingstone, Arcadia Books

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. "Ken Livingstone to run again for London mayor", The Guardian, 18 Gorffennaf 2008
  2. Llafur wedi atal Ken Livingstone , Golwg360, 28 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 7 Ionawr 2018.
  3.  Livingstone to be Chavez adviser. BBC News.
  4.  Family Detective:Ken Livingstone.
  5.  Tulse Hill School - Official Website.
  6.  Livingstone splits up with long-time lover.
  7.  London's Mayor has five children. BBC News.
  8.  Our last supper with Ken. Evening Standard (2000-04-28).
  9.  Labour moves against Ken Livingstone's candidacy. World Socialist Web Site.
  10.  How Did Red Ken Get Away With It?; Iain MacWhirter asks why. The Sunday Herald (2003-12-21).
  11.  The Week in Politics. BBC News (1999-11-18).
  12. "Livingstone back in from the cold". BBC News. 2004-01-06.
  13.  Johnson wins London mayoral race. BBC News (3 May 2008).
  14. An embrace that shames London - New Statesman 24 Ionawr 2005.
  15.  Why the Mayor of London will maintain dialogues with all of London ’s faiths and communities. Mayor Of London (2005-01-11).
  16. Mayor responds to 'dossier' on al-Qaradawi. Mayor Of London (2005-01-11).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Reg Freeson
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Brent
19872001
Olynydd:
Paul Daisley
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Swyddfa Newydd
Maer Llundain
4 Mai 20004 Mai 2008
Olynydd:
Boris Johnson