Môr Okhotsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Môr Okhotsk

Môr sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel yw Môr Okhotsk (Rwseg:Охо́тское мо́ре; Okhotskoye More). Saif yn rhan orllewinol u Cefnfor Tawel, rhwng Gorynys Kamchatka yn y dwyrain, Ynysoedd Kuril yn y de-ddwyrain, ynys Hokkaidō yn y de, ynys Sakhalin yn y gorllewin a Siberia yn y gogledd.

Caiff y môr ei enw o ddinas Okhotsk, y sefydliad Rwsaidd cyntaf yn y Dwyrain Pell Rwsaidd. Mae ganddo arwynebedd o 1,583,000 km2, ac mae'n cyrraedd dyfnder o 3,372 medr yn ei fan dyfnaf. Ceir llawer i rew yma yn y gaeaf, oherwydd y dŵr croyw sy'n llifo i mewn iddo o afon Amur.