Môr Hafren
Oddi ar Wicipedia
Mae Môr Hafren (Saesneg Bristol Channel) yn gainc o Fôr Iwerydd, sy'n gorwedd rhwng de Cymru a gorllewin Lloegr lle rhed Afon Hafren i'r môr. Mae'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw yn eitha uchel ac yn mesur tua 40 troedfedd, sef yr ail uchaf yn Ewrop.
Yr enw [golygu]
Yr hen enw ar Fôr Hafren, yn ôl traddodiad a geir yn Ail Gainc y Mabinogi (Branwen ferch Llŷr) yw Aber Henfelen. Ceir enghreifftiau o'r enw hwnnw yn Llyfr Taliesin ac mewn cerdd gan Gynddelw yn ogystal.
Ynysoedd Môr Hafren [golygu]
- Ynys Wair
- Ynys Echni
- Steep Holm (Ynys Ronech)
Llyfryddiaeth [golygu]
- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, ail argraffiad 1951). Gweler tud. 215 am ymdriniaeth Ifor Williams ar yr enw Aber Henfelen.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: