Afon Tawe

Oddi ar Wicipedia
Afon Tawe
Afon Tawe ym Mhontardawe
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.62°N 3.93°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Twrch (Tawe), Afon Giedd, Afon Haffes Edit this on Wikidata
Dalgylch272 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd48 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Afon yn ne-orllewin Cymru yw Afon Tawe.

Mae'r afon yn tarddu yn Llyn y Fan Fawr ym Mannau Brycheiniog, Powys gyda'i haber yn Abertawe. Mae nifer o afonydd, fel Twrch, yn ymuno â Thawe drwy gydol ei chwrs. Mae Tawe yn llifo drwy nifer o drefi a phentrefi Cwm Tawe, gan gynnwys Abercraf, Ystradgynlais, Ystalyfera, Pontardawe, Trebannws, Clydach, a Threforys, cyn cyrraedd y môr yn Abertawe.

Ceir cyfeiriad at Lwch Tawe, neu'r llyn lle tardd yr afon yn chwedl Culhwch ac Olwen. Hen air am lyn ydy 'llwch'; fe'i ceir hefyd yn yr enw 'Talyllychau').

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.