Ynys Echni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map Môr Hafren

Ynys ym Môr Hafren yw Ynys Echni (Saesneg Flat Holm). Fe'i lleolir tua thair milltir a hanner o Larnog, Bro Morgannwg. Mae Steep Holm (Ynys Ronech) yn agos iddi. Mae Ynys Echni yn cael ei gweinyddu fel rhan o Gymru, a hi felly ydyw'r lle mwyaf deheuol yn y wlad, gan fod Ynys Ronech yn rhan o Loegr.

Cadwraeth[golygu]

Mae'r ynys yn hafan i fywyd gwyllt a blodau gwyllt prin, gan gynnwys gwylanod cefnddu lleiaf, gwylanod y penwaig, cwningod, hwyaid yr eithin a nadredd defaid. Mae tywarch arforol yr ynys yn cynnal glaswellt arforol byr sy'n cynnwys planhigion prin megis cennin gwyllt a phys y ceirw.

Mae Ynys Echni wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1972 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 34.91 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol).

Hanes yr ynys[golygu]

Ynys Echni gyda arfordir de Cymru yn y cefndir.

Sefydlwyd clas (math o fynachlog gynnar) ar Ynys Echni rywbryd yn Oes y Seintiau.

Adeiladwyd goleudy ar yr ynys yn y 18fed ganrif, ac roedd dynion goleudy yn byw yno tan 1988, pryd cafodd y goleudy ei awtomeiddio. Daeth ffermio i ben hefyd ym 1942. Defnyddiwyd yr ynys fel safle milwrol yn ystod y 19eg ganrif ac unwaith eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Heddiw does neb yn byw ar yr ynys yn barhaol, ac mae hi bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn warchodfa natur o dan reolaeth Cyngor Dinas Caerdydd.

Derbyniwyd y neges radio gyntaf ar Ynys Echni. Fe'i gyrrwyd o Larnog ar 13 Mai 1897 gan Guglielmo Marconi gyda chymorth George Kemp, peiriannydd Swyddfa'r Post o Gaerdydd. Cynnwys y neges, a ddanfonwyd mewn Côd Morse, oedd Are you ready?

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Cysylltiadau allanol[golygu]