Amonia

Oddi ar Wicipedia
Amonia
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathpnictogen hydride Edit this on Wikidata
Màs17.031 uned Dalton Edit this on Wikidata
Rhan oresponse to toxic substance, ammonium homeostasis, cellular ammonium homeostasis Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnitrogen, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amonia
Stereo structural formula of the ammonia molecule
Ball-and-stick model of the ammonia molecule Space-filling model of the ammonia molecule
Names
Enw IUPAC
Azane
Enwau eraill
Hydrogen neitrid

Trihydrogen neitrid

Nitro-Sil
Dynodwyr
3D model (Jmol)
3DMet B00004
Cyfeirnodau Beilstein 3587154
ChEBI
ChemSpider
ECHA InfoCard 100.028.760
Rhif EC 231-635-3
Cyfeirnodau Gmelin 79
KEGG
MeSH [www.nlm.nih.gov/cgi/show_data.php?acc={{{MeSH}}} {{{MeSH}}}]
PubChem
Rhif RTECS BO0875000
UNII
Rhif yr UN 1005
Priodweddau
Fformiwla cemegol NH3
Màs molar 17.031 g/mol
Golwg Nwy di-liw
Arogl ogla drwg iawn
Dwysedd 0.86 kg/m3 (1.013 bar ar bwynt berwi)
0.73 kg/m3 (1.013 bar ar 15 °C)
681.9 kg/m3 ar −33.3 °C (hylif)[1]
817 kg/m3 at −80 °C (solid tryloyw)[2]
Pwynt berwi −77.73 °C (−107.91 °F; 195.42 K)
Pwynt berwi −33.34 °C (−28.01 °F; 239.81 K)
Hydoddedd mewn water 47% (0 °C)
31% (25 °C)
28% (50 °C)[3]
Hydoddedd hydawdd mewn clorofform, ether, ethanol, methanol
Gwasgedd aer 8573 h Pa
Asidedd (pKa) 32.5 (−33 °C),[4] 10.5 (DMSO)
Basigedd (pKb) 4.75
Indecs plygiant (nD) 1.3327
Gludedd 0.276 cP (-40 °C)
Strwythur
Siap Moleciwlar Pyramid trigonal
Moment deupol 1.42 D
Thermo-cemeg
Entropi So298 193 J·mol−1·K−1[5]
Newid enthalpi ΔfHo298 −46 kJ·mol−1[5]
Peryglon
Pictogramau GHS [6]
NFPA 704
NFPA 704 four-colored diamondFlammability code 1: Must be pre-heated before ignition can occur. Flash point over 93 °C (200 °F). E.g., canola oilHealth code 3: Short exposure could cause serious temporary or residual injury. E.g., chlorine gasReactivity code 0: Normally stable, even under fire exposure conditions, and is not reactive with water. E.g., liquid nitrogenSpecial hazards (white): no code
1
3
0
Fflachbwynt nwy fflamadwy
Cyfyngiad ffrwydro 15–28%
U.D. Y cysylltiad a ganiateir
(exposure limit) (PEL)
50 ppm (25 ppm ACGIH- TLV; 35 ppm STEL)
LD50 0.015 mL/kg (dynol, ceg)
Cyfansoddion Perthnasol
Arall cationau Ffosffin
Arsin
Stibin
Perthnasol nitrogen hydrides Hydrasin
Asid hydrasoic
Cyfansoddion perthnasol Amoniwm hydrocsid
Oni nodir yn wahanol, nodir data ar gyfer defnyddiau yn eu cyflwr arferol (ar dymheredd o 25 °C (77 °F), 100 kPa)
Infobox references

Gofal! Ceir erthygl arall ar amoniwm.

Mae amonia (neu'n llai cyffredin, azane) yn gyfansoddyn sydd wedi'i wneud o ddwy elfen: hydrogen a nitrogen gyda'r fformiwla cemegol NH3. Mae'n nwy di-liw gydag arogl llym iawn. Mae ganddo gyfraniad cryf i anghenion maeth organebau daearol oherwydd priodweddau ei halwynau fel gwrtaith amaethyddol. Gweler halwynau amoniwm.

Gellir hefyd ei ddisgrifio fel un o flociau adeiladu o fewn synthesis llawer o nwyddau, tabledi a moddion y fferyllydd a hylifau glanhau. Er ei fod yn gyffredin yn y gweithle a'r cartref mae iddo briodweddau peryglus iawn. Ledled y byd, cynhyrchwyd oddeutu 198 miliwn tunell[7] ohono yn 2012, sef 35% o godiad ers 2006.

Mae'r amonia a gynhyrchir yn fasnachol yn cael ei alw, fel arfer, yn "amonia anhydrus", ac mae'r term yma'n pwysleisio absenoldeb dŵr o fewn y deunydd. Oherwydd fod NH3 yn berwi ar −33.34 °C (−28.012 °F) dan wasgedd o 1 atmosffêr, mae'n rhaid cadw, neu storio'r hylif o dan wasgedd uchel neu mewn lle sydd ag iddo dymheredd isel.

Mae "amonia cyffredin" y cartref (neu amoniwm hydrocsid) yn gymysgedd o NH3 and dŵr. Gellir mesur cryfder yr hylif mewn unedau ar Raddfa Baumé (dwysedd), gyda 26 gradd Baumé (tua 30% (o ran pwysau) o amonia ar 15.5 °C) yn gyffredin mewn nwyddau masnachol.[8] Gall amonia cyffredin amrywio o ran ei grynhoad (concentration) o 5 i 10% (o ran pwysau) o amonia.

Proses Haber[golygu | golygu cod]

Cynhyrchir amonia ar raddfa ddiwydiannol trwy broses Haber. Mae nitrogen yn adweithio â hydrogen ym mhresenoldeb catalydd haearn ar 650-720K (380-450oC) dan wasgedd uchel (tua 150-200 atmosffer).[9] Mae’r adwaith isod rhwng nitrogen a hydrogen yn gildroadwy:

N2(n) + 3H2(n) → 2NH3(n)

Mae’r adwaith hefyd yn ecsothermig: ΔHθ=-92 kJmol−1

Mae cynnyrch amonia ym mhroses Haber yn llai o lawer na 100%. Mae hyn yn golygu bod y cymysgedd adwaith yn cynnwys nwyon hydrogen a nitrogen nad ydynt wedi adweithio pan fydd y broses wedi gorffen. Mae’r nwyon hyn yn cael eu hadennill trwy hylifo’r amonia ac ailgylchu’r nwyon gweddilliol yn ôl i’r adweithydd.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Gwrtaith[golygu | golygu cod]

Yn 2004, roedd 83% o'r holl amonia a gynhrchwyd yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol, naill ai fel halwynau neu hylifau. Wedi ei hydoddi a'i ledaenu i'r pridd caiff effaith bositif ar blanhigion megis gwenith neu ŷd gan fod amonia a'i gyfansoddion yn ffynhonnell nitrogen a ddefnyddir gan y cnydau i gynhyrchu protein.

Asid nitrig[golygu | golygu cod]

Defnyddir amonia'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn y broses o greu cyfansoddion sy'n cynnwys nitrogen. Un o'r rhai hyn ydy asid nitrig, a gaiff ei gynhyrchu yn sgil y broses a elwir yn Broses Oswald drwy ocsideiddio amonia gydag aer ar gatalydd platinwm ar wres o 700–850 °C, ~9 atm.[10]

NH3 + 2 O2 → HNO3 + H2O

Defnyddir asid nitrig i gynhyrchu gwrtaith, ffrwydron a llawer o gyfansoddion eraill.

Glanhawyr[golygu | golygu cod]

Toddiant o NH3 a dŵr ydy amonia cyffredin, hynny yw amoniwm hydrocsid, a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer gwaith pob-dydd o lanhau. Ceir effaith taclus a sgleiniog o'i ddefnyddio gan nad ydyw'n gadael olion eraill yn y broses o lanhau, ac o'r herwydd fe'i defnyddir i lanhau gwydr ffenestri, dur a photiau clai, poptai ac i socian cyfarpar y gegin sydd'n gacen o garbon. Mae'r math hwn o amonia yn amrywio o ran ei gryfder o 5 - 10%.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yost, Don M. (2007). "Ammonia and Liquid Ammonia Solutions". Systematic Inorganic Chemistry. READ BOOKS. t. 132. ISBN 1-4067-7302-6.
  2. Blum, Alexander (1975). "On crystalline character of transparent solid ammonia". Radiation Effects and Defects in Solids 24 (4): 277. doi:10.1080/00337577508240819.
  3. Perry, Dale L.; Phillips, Sidney L. (1995). Handbook of inorganic compounds. CRC Press. t. 17. ISBN 0-8493-8671-3.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. Perrin, D. D., Ionisation Constants of Inorganic Acids and Bases in Aqueous Solution; ail rifyn, Pergamon Press: Rhydychen, 1982.
  5. 5.0 5.1 Zumdahl, Steven S. (2009). Chemical Principles, 6ed rhifyn. Houghton Mifflin Company. t. A22. ISBN 0-618-94690-X.
  6. Sigma-Aldrich Co. Ammonia. Retrieved on 2013-07-20.
  7. Ceresana. "Market Study Ammonia". Ceresana. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-09. Cyrchwyd 2012-11-07.
  8. "Ammonium hydroxide physical properties" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-11-27. Cyrchwyd 2013-03-01.
  9. The Chemical Industry Education Centre (1999). The Chemical Industry. York: University of York. ISBN 1-85342-577-X.
  10. Holleman, A. F.; Wiberg, E. (2001). Inorganic Chemistry. San Diego: Academic Press. ISBN 0-12-352651-5.CS1 maint: multiple names: authors list (link)