Atgenhedlu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Planhigyn Kalanchoë pinnata yn magu epil blanhigion ar hyd ymylon ei ddail: enghraifft o atgenhedlu an-rhywiol
Llewod yn Kenya yn atgenhedlu.

Y broses fiolegol sy'n creu organebau unigol newydd yw atgenhedlu. Mae atgenhedlu yn rhinwedd greiddiol o fywyd; mae pob organeb (hyd y gwyddom) yn ganlyniad i atgenhedlu. Gall atgenhedlu fod yn rhywiol neu'n an-rhywiol.

Trwy 'atgenhedlu'n an-rhywiol', gall unigolyn atgenhedlu heb angen aelod arall o'r un rhywogaeth. Mae ymraniad cell facteriol yn ddwy epil gell yn enghraifft o atgenhedlu an-rhywiol. Ond mae organebau amlgellog yn atgenhedlu'n an-rhywiol hefyd; gall y rhan fwyaf o blanhigion atgenhedlu'n an-rhywiol.

Mae'n rhaid i ddau unigolyn gymryd rhan mewn 'atgenhedlu rhywiol', un o bob rhyw gan amlaf. Mae atgenhedlu dynol yn rhywiol.

Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill