Genyn

Oddi ar Wicipedia
Segment o DNA yw'r genyn, sy'n encodio ffwythiant arbennig. Mae cromosom yn cynnwys llinell hir iawn o DNA sy'n cynnwys genynnau. Gall cromosom dynol gynnwys hyd at 500 miliwn o barau o DNA, sydd â miloedd o genynnau.
Y mynach Gregor Mendel (1822–1884).

Segment neu ran o'r DNA sy'n encodio RNA (neu brotin yw genyn (ll. genynnau), sy'n uned foleciwlar ac yn rhan o etifeddeg.[1][2] Trosglwyddo genynnau i'r epil yw'r prif ddull o drosglwyddo nodweddion ffenotypig. Caiff mathau gwahanol o genynnau (a chydadwaith genyn-amgylchedd) ddylanwad mawr ar nodweddion biolegol organebau. Mae rhai o'r nodweddion hyn yn weledol: lliw llygad, sawl troed, braich neu fus, ac eraill nad ydynt yn weladwy e.e. teip gwaed, y risg o ddal clefyd arbennig, neu'r miloedd o brosesau hynny sy'n ffurfio yr hyn a elwir yn 'fywyd'.

Gall genynnau fwtanu (mutate) o fewn eu cyfres, gan arwain at amrywiolion o fewn eu poblogaeth, a elwir yn alelau. Mae'r alelau hyn yn codio mathau gwahanol o brotin, sy'n arwain at nodweddion o ffenodeipiau gwahanol.

Mae'r cysyniad o genyn yn parhau i gael ei newid a'i ail-ddiffinio wrth i wyddoniaeth ddarganfod ffenomenâu gwahanol, a gwybodaeth newydd yn dod i'r fei.[3]

Hanes ei ddarganfod[golygu | golygu cod]

Darganfyddodd Gregor Mendel (1822–1884) unedau sy'n gyfrifol am etifeddu nodweddion y rhieni.[4] Rhwng 1857 a 1864 astudiodd y patrymau gweledol mewn pys bwytadwy gan gofnodi'r nodweddion a oedd yn newid o un genhedlaeth i'r llall. Disgrifiodd y rhain yn fathemategol fel amrywiadau 2n (ble mae 'n' yn golygu'r nifer o nodweddion gwahanol. Ni ddefnyddiodd y term 'genyn' (na gene!), disgrifiodd ei ganlyniadau mewn modd a wahaniaethodd rhwng genoteip a ffenoteip (nodweddion gweledol sydd yn gwahaniaethu organebau byw). Ef hefyd a ddisgrifiodd y "dosbarthiad naturiol", sef y gwahaniaeth rhwng genyn trechol a ffactorau enciliol. Ef hefydd a nododd am y tro cyntaf y gwahaniaeth rhwng heterosygot a homosygot.

Darganfuwyd strwythut y moleciwl DAN yn 1953 gan James D. Watson a Francis Crick.[5][6] Esblygodd eu syniadaeth yn ddogma a ddaeth yn asgwrn cefn bioleg moleciwlaidd, sy'n datgan fod protinau yn cael eu trawsblannu o'r RNA sydd yn ei dro'n cael ei drawsblannu o'r DNA. Gelwir yr astudiaeth o eneteg ar lefel y DNA yn eneteg foleciwlaidd.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair 'genyn' o'r Hen Roeg γένος (génos) sy'n golygu 'hil' neu 'epil'. Mae'r gair modern yn tarddu i 1909 pan ddefnyddiwyd ef yn gyntaf gan y botanegydd Wilhelm Johannsen i ddisgriffio'r gwahaniaeth corfforol (a ffwythiannol) sylfaenol yr uned etifeddol.[7] Defnyddiwyd y term "geneteg" (genetics) am y tro cyntaf gan William Bateson yn 1905.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Slack, J.M.W. Genes-A Very Short Introduction. Oxford University Press 2014
  2. Alberts B, Johnson A, Lewis J, Raff M, Roberts K, Walter P (2002). Molecular Biology of the Cell (arg. y bedwaredd rhifyn). Efrog Newydd: Garland Science. ISBN 978-0-8153-3218-3.
  3. Gericke, Niklas Markus; Hagberg, Mariana (5 Rhagfyr 2006). "Definition of historical models of gene function and their relation to students’ understanding of genetics". Science & Education 16 (7-8): 849–881. Bibcode 2007Sc&Ed..16..849G. doi:10.1007/s11191-006-9064-4.
  4. "Genes and causation" (Free full text). Philosophical Transactions. Series A, Mathematical, Physical, and Engineering Sciences 366 (1878): 3001–3015. Medi 2008. Bibcode 2008RSPTA.366.3001N. doi:10.1098/rsta.2008.0086. PMID 18559318. http://rsta.royalsocietypublishing.org/cgi/pmidlookup?view=long&pmid=18559318. Adalwyd 2015-11-22.
  5. Judson, Horace (1979). The Eighth Day of Creation: Makers of the Revolution in Biology. Cold Spring Harbor Laboratory Press. tt. 51–169. ISBN 0-87969-477-7.
  6. Watson, J. D.; Crick, FH (1953). "Molecular Structure of Nucleic Acids: A Structure for Deoxyribose Nucleic Acid". Nature 171 (4356): 737–8. Bibcode 1953Natur.171..737W. doi:10.1038/171737a0. PMID 13054692. http://www.nature.com/nature/dna50/watsoncrick.pdf.
  7. "The Human Genome Project Timeline". Cyrchwyd 13 Medi 2006.
  8. "What is a gene, post-ENCODE? History and updated definition". Genome Research 17 (6): 669–681. Mehefin 2007. doi:10.1101/gr.6339607. PMID 17567988.