Organeb ungellog

Oddi ar Wicipedia
Organeb ungellog
Valonia ventricosa, rhywogaeth o alga gyda diametr rhwng 1 a 4 cm - sy'n ei wneud yn un o'r mathau mwyaf.

Creadur gyda dim ond un gell yw organeb ungellog. Mae bacteria yn organeb ungellol. Credir mai dyma'r math hynaf o fywyd ar wyneb y Ddaear, gyda'r protogell yn ffurfio rhwng 3.8 a 4 biliwn cyn y presennol (CP).[1][2]

Gelwir creaduriaid gyda mwy nag un gell yn Organebau amlgellog.

Y prif grwpiau o organebau ungellog yw: bacteria, archaea, protosoa, algae ungellog a ffwngi ungellog. Gellir eu dosbarthu'n ddau gategori: organebau procaryotig ac eucaryotig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]