Damcaniaeth y Glec Fawr
Oddi ar Wicipedia
Yng nghosmoleg ffisegol, damcaniaeth y Glec Fawr yw'r ddamcaniaeth wyddonol sy'n ceisio esbonio sut yr ymddangosodd y bydysawd allan o gnewyllyn dwys a phoeth iawn tua 13.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl (sef hanner nos neu 0000 o'r gloch ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn gosmig).
Nid yw pob seryddwr yn derbyn y ddamcaniaeth, fodd bynnag. Ymhlith y rhai sydd wedi cynnig damcaniaethau eraill mae Fred Hoyle, awdur y ddamcaniaeth cyflwr cyson.
Yn ôl damcaniaeth y Glec Fawr, ymddangosodd y bydysawd o ffurf ddwys a phoeth iawn (gwaelod). Ers hynny, mae'r gofod ei hun wedi ehangu gydag amser, gan gario galaethau gyda fe.
Darllen pellach [golygu]
- Hawking, Stephen. A Brief History of Time (Llundain, Bantam, 2011 [1988]).
- Krauss, Lawrence M. A Universe from Nothing (Simon & Schuster, 2012).
- Singh, Simon. Big Bang (Llundain, Harper Perennial, 2005).