Damcaniaeth perthnasedd cyffredinol
Damcaniaeth geometrig ar ddisgyrchiant wedi'i sgwennu gan Albert Einstein yn 1915 ydy'r ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol (Saesneg: General relativity).[1] Mae'n parhau i fod yn berthnasol i Ffiseg ac yn cael ei ddefnyddio fel y disgrifiad cyfredol, diysgog ar ddisgyrchiant mewn ffiseg fodern.
Mae'n cyffredinoli damcaniaeth arall a sgwennwyd gan Einstein, sef y ddamcaniaeth perthnasedd arbennig a deddfau Isaac Newton ar ddisgyrchiant, gan gynnig disgrifiad o ddisgyrchiant fel rhan hanfodol o ofod ac amser gofodol. Dywed fod cromlin amser gofodol yn perthyn yn uniongyrchol i'r pedwar momentwm: egni mas, momentwm llinell, mater ac ymbelydredd. Mae'r berthnasedd rhyngddynt yn cael ei ddisgrifio gan hafaliadau Einstein, sef system o ran-hafaliadau gwahaniaethol (partial differential equations).
Cyfeiriadau [golygu]