Twll du
Yn ôl damcaniaeth perthnasedd cyffredinol Einstein rhan o'r gofod yw twll du lle na all unrhyw beth (gan gynnwys golau) ddianc, ac oherwydd hyn y cafodd ei enw. Caiff ei greu o ganlyniad i ddadfeiliad amser-gofod a achosir oblegid cywasgedd uchel fàs. Ceir ymyl, neu ffin, i'r twll du, sef yr union bwynt o ble na ddaw dim yn ôl, a elwir yn "gorwel y digwyddiad".
O dan reolau neu ddamcaniaeth mecaneg cwantwm, mae iddynt dymheredd ac mae ymbelydredd Hawking yn cael ei allyrru ohonynt. Mae'r tymheredd hwn, fodd bynnag, yn is na thymheredd yr ymbelydredd cefndirol. Er ei fod yn anweledig, gall y seryddwr ei adnabod oherwydd y ffordd mae'r gwrthrychau sydd o'i gwmpas yn symud ac yn ymateb iddo. Pan fo cwmwl o nwy yn cael ei 'sugno' i mewn iddo, gwnaiff hynny mewn siâp sbiral gan allyrru llawer o ymbelydredd a gaiff ei fesur gan delesgopau ar y Ddaear.