Ffiseg
|
| Ffiseg | ||||||||
| Dewislen Ffiseg |
||||||||
Hanes Ffiseg
|
||||||||
Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) neu anianeg (term hynafol) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser. Mae anianeg yn:
- disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd
- disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd
- dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.
Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.
Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.
Hanes Ffiseg [golygu]
Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o ddisgyblaethau gwyddonol hynaf. Enw'r gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg yw Aristotle's Physics.
Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ymMhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.
Nod a chwmpas [golygu]
Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod Ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaidd hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19eg ganrif wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.
Canghennau Ffiseg [golygu]
|
Yn aml, cai meysydd eu trefnu fel a ganlyn.
|
Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.
-
System Thermodynameg
-
Cerrynt trydanol yw mellt.
Gwyddonwyr Ffiseg o Gymru [golygu]
- Granville Beynon Prifysgolion Abertawe acAberystwyth; astudio'r ionosffer a'r magnetosffer.
- David Brunt Cyfarwyddwr Swyddfa Dywydd Gwledydd Prydain, tad y rhagolygon tywydd modern.
- Donald Watts Davies dyfeisydd y swits pecynnau, trosglwyddo data.
- E H Griffiths Athro Ffiseg Prifysgol Caerdydd.
- Ezer Griffiths Cynhwysedd thermol metalau.
- David Edward Hughes y cyntaf yn y byd i ddarlledu a derbyn signalau radio.
- Brian David Josephson (ganed 1940); ffiseg lled-ddargludyddol. Enillydd Gwobr Nobel (1973).
- Frank Llewellyn Jones Prifysgol Abertawe; ioneiddio.
- William Preece cydweithiwr Marconi; prif beiriannydd y Swyddfa Bost.
- Graham Sutton Astudio'r tywydd a chyfrifiadureg.
- John Viriamu Jones Athro Ffiseg Prifysgol Caerdydd cyntaf.
- Evan James Williams Dadfeiliad y mwon.
- Phil Williams ffiseg yr haul a'r ddaear.
Bioleg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth
Acwsteg · Astroffiseg ·Cryogeneg · Cosmoleg ·Cysyniadau ffiseg ·Ffiseg atomig, moleciwlaidd ac optig · Ffiseg Mater cyddwysedig · Dynameg Dynameg hylif · Ffiseg Atomig ·Ffiseg cyflymydd ·Ffiseg cyfrifiantol · Gronynau · Gronyn isatomig · Grymoedd sylfaenol ·Thermodynameg · Electromagnetedd · Opteg · Ffiseg gronnynau · Mater · Mecaneg · Mecaneg glasurol · Mecaneg cwantwm · Mecaneg ystadegol · Theori perthnasedd · Perthnasedd Cyffredinol · Theori maes cwantwm ·Thermodynameg · Stateg · Stateg hylif ·Unedau SI
