Granville Beynon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwyddonydd ffiseg o Ddyfnant, ger Abertawe oedd Syr William John Granville Beynon (24 Mai 1914 - 11 Mawrth 1996). Am ddeuddeg mlynedd, rhwng 1946 a 1958 bu'n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe.[1]. Aeth i weithio yn Slough yn 1938 yn y Labordy Ffiseg Cenedlaethol, gyda Syr Edward Appleton, gŵr a gafodd gryn effaith arno. Yn 1958 derbyniodd gadair Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Gallai chwarae'r ffidil a snwcer i safon uchel iawn. Yn ôl y gwyddonydd Phil Williams,

Roedd ganddo wreiddiau tyfn, ac roedd wastad yn driw i'w wreiddiau.[2]

Yn ôl papur yr Independent, gwnaeth Aberystwyth yn "Mecca i ymchwil i'r awyrgylch uwch".[3]

Roedd yn flaenllaw iawn ym myd y radio ac yn Llywydd URSI, (sef "The International Union of Radio Science"), ac yn olygydd "The Journal of Atmospheric and Terrestrial Physics". Ef hefyd oedd arweinydd y gymuned ddarlledu yng Nghymru.

Roedd hefyd yn un o sefydlwyr EISCAT (European Incoherent Scatter Scientific Association).

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Gwefan yr Independent: Teyrnged i Beynon
  2.  Sir GRANVILLE BEYNON. MIST. Adalwyd ar 30 Awst, 2009.
  3. Obituary: Professor Sir Granville Beynon ("He made Aberystwyth the Mecca of upper-atmosphere research.")

Dolennau allanol [golygu]