Cysyniadau ffiseg
Enghraifft o'r canlynol | amlinelliad o erthygl |
---|---|
Prif bwnc | ffiseg |
Dyma restr o gysyniadau ffiseg mwyaf adnabyddus.
Gwefr (Q)[golygu | golygu cod]
Gwefr yw craidd trydan. Y gwefriad lleiaf sydd ar gael yw gwefriad electron sy'n 1.6 X10−19.
Cerrynt (I)[golygu | golygu cod]
Cerrynt yw'r gyfradd llif gwefr trydanol.
Pellter (S)[golygu | golygu cod]
Dyma un o'r mesuriadau anniffiniedig ffiseg, mae'n mesur gwahaniad dau beth.
Newidyn[golygu | golygu cod]
Pan mae dau newidyn yn gysylltiedig, dwedwn fod un yn dibynnu a'r y llall. Mewn arbrofion defnyddir y newidyn annibynnol i fesur y newidyn dibynnol.
Egni (E)[golygu | golygu cod]
Mesurir egni mewn jouleau, defnyddir egni ym mhob achlysur o fywyd, trwy egni gemegol, biolegol, cinetig, potesial a thrydanol. Gellir cysylltu'r egniau yma drwy nifer o fformiwlâu.
Grym (F)[golygu | golygu cod]
Mae maint y grym yn dibynnu ar y gyfradd mae'r grym yn gallu cyflymu 1 kg o fas.
Egni Cinetig (K)[golygu | golygu cod]
Dyma'r egni sy'n gwneud i wrthrych symud. Mesurir eto mewn jouleau.
Mas (m)[golygu | golygu cod]
Mesuriad anniffiniedig arall yw mas. Mesuriad interia yw mas. Uned mas yw Kilogram (Kg).
Lleoliad (x)[golygu | golygu cod]
Mae lleoliad yn dibynnu ar y pellter o sero. Mae'r lleoliad yn dibynnu ar darddiad y mesuriad.
Pwer (P)[golygu | golygu cod]
Pwer yw cyfradd gwaith. Lluosir foltedd a cherrynt i greu pwer mewn trydan. Mesurir pwer mewn wattiau.
Buanedd a chyflymder (v)[golygu | golygu cod]
Cyfradd newid lleoliad yw cyflymder.
Foltedd (V)[golygu | golygu cod]
Mesuriad o egni dros wefr ydy foltedd. Defnyddir y mesuriad yma pan yn sôn am gryfder trydan.