Phil Williams

Oddi ar Wicipedia
Phil Williams
Ganwyd11 Ionawr 1939 Edit this on Wikidata
Tredegar Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 2003 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Roedd y Dr Philip James Stradling Williams (11 Ionawr 193910 Mehefin 2003), yn wyddonydd ac yn wleidydd. Fe'i etholwyd yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth ranbarthol Dwyrain De Cymru yn 1999.

Fe'i ganwyd yn Nhredegar ond fe'i magwyd ym Margoed. Cafodd radd ddwbl mewn ffiseg ddamcaniaethol ac yn ddiweddarach Ph.D. ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd yn wyddonydd blaengar ym maes gwyddoniaeth y gofod. Penodwyd ef yn ddarlthydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1967, ac yn athro Ffiseg Solar-Ddaearol yn 1991.

Yn aelod o Blaid Cymru ers 1961 chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad polisi y blaid. Ef oedd cadeirydd cenedlaethol cyntaf y blaid, a bu yn ymgeisydd seneddol ac yn ymgeisydd Ewropeaidd i'r blaid. Daeth o fewn trwch blewyn i ennill is-etholiad Caerffili yn 1968.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Peidiodd a bod yn Aelod o'r Cynulliad yn 2003 er mwyn gweithio ar brosiect ymchwil yn astudio'r haul o'r wylfan ger Pegwn y Gogledd. Fe'i etholwyd yn Wleidydd Cymreig y Flwyddyn S4C yn y flwyddyn 2000.[1] Rhoddwyd pwysau arno gan gyd-weithwyr i fod yn arweinydd newydd y Blaid, yn sgîl ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones fel llywydd. Yn fuan wedi iddo adael Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dioddefodd Williams drawiad ar y galon tra'n ymweld â pharlwr tylino "A Touch of Class" (a elwir "Twice as Nice" bellach) yng Nghaerdydd.[2] Bu farw o ganlyniad i'r trawiad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Former Plaid Cymru AM dies Gwefan y BBC. Adalwyd ar 23-07-2009
  2. Woman quizzed on ex-AM's death. Gwefan BBC. Adalwyd ar 23-07-2009

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru
19992003
Olynydd:
Laura Anne Jones