Bargoed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°41′N 3°14′W / 51.69°N 3.24°W / 51.69; -3.24

Bargoed
Bargoed McDonnel Road.jpg
Bargoed is located in Cymru
Bargoed

 Bargoed yn: Cymru
Poblogaeth 13,721 
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans ST145995
Prif ardal Caerffili (sir)
Sir seremonïol Gwent
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost BARGOED
Rhanbarth cod post CF81
Cod deialu 01443
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Caerffili
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •

Mae Bargoed (Bargod ar lafar yn lleol) yn dref ar lan afon Rhymni i'r gogledd o Gaerffili ym Morgannwg, Cymru. Fe'i gweinyddir fel rhan o fwrdeistref sirol Caerffili. Mae marchnad wythnosol yn y dre.

Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.

[golygu] Tarddiad yr enw

Fe'i ceir yn gyntaf, wedi'i ysgrifennu, yn 1799, felly bathiad cymharol ddiweddar ydyw. Mae'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yn Aberbargoed (Aber Bargoed oedd ffurf 1578). Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn; fe'i canfyddir yn gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf cynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[1]

[golygu] Enwogion

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (gol.), Dictionary of the Place-names of Wales, Gwasg Gomer, 2007.
CymruCaerffili.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill