Crymlyn
Tref ym mwrdeisdref sirol Caerffili yn ne Cymru yw Crymlyn (Saesneg: Crumlin). Saif yn nyffryn Afon Ebwy, bum milltir i'r gorllewin o dref Pont-y-pŵl.
Mae'r dref yn enwog am y bont reilffordd, a agorwyd yn 1857 ac a gaewyd yn 1964. Hon oedd y bont reilffordd uchaf ym Mhrydain ar hyd y cyfnod yma; roedd yn 220 troedfedd o uchder a 1,650 troedfedd o hyd. Bu raid chwalu'r bont yn 1967, gan ei bod mewn cyflwr peryglus. Cyn ei dymchwel, ffilmiwyd golygfeydd ar gyfer y ffilm Arabesque gyda Sophia Loren a Gregory Peck.
Roedd cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn diweddu yma. Llanwyd y rhahn yma o'r gamlas yn niwedd y 1960au, i adeiladu'r briffordd A465. Caeodd gwaith glo'r Naviigation yn 1967. Cafwyd rhywfaint o ddiwydiant newydd; Crymlyn yw canolfan cynhyrchu Pot Noodle.
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach