Rhisga
Cyfesurynnau: 51°36′29″N 3°05′28″W / 51.608°N 3.091°W
| Rhisga | |
| 240px | |
|
|
|
| Poblogaeth | 11,455 |
|---|---|
| Prif ardal | Caerffili |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | CASNEWYDD |
| Cod deialu | 01633 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Islwyn |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Caerffili | |
Tref ger Cwmbrân a Chasnewydd, ym mwrdeistref sirol Caerffili, yw Rhisga (Risca yn Saesneg). Daw'r enw o'r Gymraeg Wenhwyseg "'r Is Ca'" am "Yr Is Cae".
Mae'n gorwedd ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref ar un adeg. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddechrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd / 362m) a Thwmbarlwm i'r dwyrain (1,375 troedfedd / 419m).
Mae côr meibion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a thros y mynydd. Lleolir amgueddfa ddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.
Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r Siartwyr, cyn iddynt orymdeithio i Gasnewydd.
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach