Twmbarlwm
Oddi ar Wicipedia
Mynydd i'r gogledd-ddwyrain o dref Rhisga ym mwrdeistref sirol Caerffili yw Twmbarlwm, uchder 419m ac arwynebedd o 4.14 hectar (deg erw).
Ceir gweddillion bryngaer o'r Oes Haearn ger gopa'r mynydd. Credir iddi gael ei chodi gan lwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal cyn ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Mae'n fryngaer ag iddi un mur un unig gyda dau fwlch mawr ynddo. Yn ei phen dwyreiniol geir olion castell mwnt a beili bychan a fanteisiai ar yr hen safle amddiffynnol.
Gwelir y mwnt yn glir a cheir golygfeydd o Sianel Bryste a Chaerdydd. Mae'n rhan o Ffordd Goedwig Cwm-carn ac mae bellach yn atyniad poblogaidd i gerddwyr.