Bedwellte

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Sannan, eglwys plwyf Bedwellte.

Pentref a phlwyf eglwysig yn sir Caerffili yw Bedwellte (Saesneg: Bedwellty). Fe'i lleolir ger pentref Argoed tua 3 milltir i'r gogledd o'r Coed Duon.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Sannan. Ceir Ffynnon Sant Sannan ger yr eglwys. Yr unig le arall a gysylltir â'r sant hwn yw plwyf Llansannan yn Sir Conwy. Mae'n bosibl y bu dau sant o'r un enw, un yn frodor o ogledd Cymru a'r llall yn Wyddel (Gwyddeleg: Senanus/Senan) o dalaith Munster a ymsefydlodd yng Nghymru yn amser Dewi Sant ac a sefydlodd glas ym Medwellte.[1]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
CymruCaerffili.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill