Machen
Mae Machen (Cyfeirnod OS: ST 226 887) yn bentref eitha mawr, wedi'i leoli tair milltir i'r dwyrain o Gaerffili ar ffordd yr A468 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ne Cymru. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.
Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Dywed un chwedl y bu Sant Pedr yn ymweld a Chymru. Ar ymddangosiad sydyn y Diafol, cododd nifer o feini mawrion a'u gosod yn ei ffedog er mwyn gallu eu cario yn rhwyddach. Erlidiwyd ef gan y Diafol, a bu'r ddau'n neidio o gopa un mynydd i'r llall. Wrth i'r Diafol lanio ar gopa Mynydd Machen, arhosodd er mwyn dal ei anadl a dechreuodd Sant Pedr daflu'r meini tuag ato, gan eu gadael ar wasgar o gwmpas y fro.
Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.
Mae enwogion o Fachen yn cynnwys Ron Davies. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw barddol "Ron o Fachen".
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach