Aberbargoed
Pentref yn Sir Caerffili yw Aberbargoed (hefyd: Aberbargod ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar y briffordd A4049 tua milltir i'r gogledd o Bargoed, rhwng Tredegar ac Ystrad Mynach.
[golygu] Yr enw
Mae'r enw'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yma. "Aber Bargoed" oedd ffurf 1578. Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn: fe'i canfyddir yn gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf cynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[1]
[golygu] Pobl o Aberbargoed
- Glyndŵr Michael (1909-1943)
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan gol.), Dictionary of the Place-names of Wales, Gwasg Gomer, 2007.
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach