Hengoed

Oddi ar Wicipedia
Hengoed
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaPenpedairheol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.65°N 3.23°W Edit this on Wikidata
Cod OSST154950 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHefin David (Llafur)
AS/auWayne David (Llafur)
Map

Pentref mawr yng nghymuned Gelli-gaer, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Hengoed. Fe'i lleolir ar ochr orllewinol Cwm Rhymni. Saif pentref Cefn Hengoed gerllaw. Poblogaeth: 5,044 (Cyfrifiad 2001).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).[2]

Lleolir Ysgol Gynradd Gymraeg Ystrad Mynach yn agos i'r pentref.

Gwasanaethir yr Hengoed gan orsaf sy'n rhan o lein y Cymoedd sy'n ei gysylltu gyda Rhymni i'r gogledd a gorsaf Caerdydd Canolog i'r de.

Lleolir Parc Penallta ar safle hen waith glo Penallta ger y pentref. Yno ceir enghraifft wych o waith celf tir lle crwyd 'cerflun' o bridd anferth o'r enw 'Sultan the Pit Pony'.

Enwogion[golygu | golygu cod]

  • Gren (Grenfell Jones, 1934–2007), cartwnydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]