Maesycwmer
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili yw Maesycwmer, hefyd Maes-y-cwmwr (Saesneg: Maesycwmmer). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,141. Ni chredir i'r enw ddod o'r gair "cymer", sef y lleoliad lle mae dwy afon yn uno. Credir mai tarddiad yr enw ydy'r hen air Cymraeg "cwmwr" sef pont droed. Dyma'r bont a ddefnyddiai'r Parch Shôn Shincyn i groesi'r afon i'w dŷ (Maesycwmmwr House) a leolwyd ar ochr ddwyreiniol yr afon ac a godwyd yn 1826. Yr enw a ddefnyddir hefyd ar fapiau'r Degwm yn 1940 oedd Maesycwmwr.[1]
Saif Maesycwmer bum milltir i'r gogledd o dref Caerffili, ar lan ddwyreiniol afon Rhymni, gyferbyn a Hengoed ar y lan orllewinol. Gerllaw mae Traphont Hengoed.
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach