Ystrad Mynach
Cyfesurynnau: 51°38′31″N 3°14′26″W / 51.6419°N 3.2405°W
| Ystrad Mynach | |
|
|
|
| Poblogaeth | 13,500 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | ST145945 |
| Prif ardal | Caerffili |
| Sir seremonïol | Gwent |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | HENGOED |
| Rhanbarth cod post | CF82 |
| Cod deialu | 01443 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Caerffili |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Caerffili | |
Mae Ystrad Mynach yn dref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ne Cymru. Saif ar y briffordd A472. Mae ganddi boblogaeth o tua 13,500 a saif yng Nghwm Rhymni. Mae Caerdydd 18.4 km i ffwrdd o Ystrad Mynach ac mae Llundain yn 217.3 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 18 km i ffwrdd.
Cyn y Chwyldro Diwydiannol a dyfodiad y gwaith glo roedd yr ardal yn dir amaethyddol gyda nifer o ffermydd.[1] saif yng nghymuned Gelligaer.
Tarddiad yr enw [golygu]
Ystyr "ystrad" yw "llawr" neu waelod dyffryn; mae'r "ach" ar y diwedd yn awgrymu tir gwlyb neu gors a cheir enghreifftiau gerllaw e.e. Llanbradach a Llancaiach. O'r geiriau Ystrad-Man-Ach y daw'r gair, felly, ac nid o'r gair Cymraeg "Mynach".[2] Cyn codi cloddiau pwrpasol yn y 1960au arferai'r dref gael cryn dipyn o lifogydd.
Adeiladau a hanes [golygu]
Ceir yn y dref nifer o adeiladau'r cyngor lleol a Choleg Ystrad Mynach, coleg a sefydlwyd yn 1959 i hyfforddi ac ail hyfforddi glowyr lleol. Mae tua 12,000 ar gofrestr y coleg erbyn heddiw.
Mae Glofa Penallta ger y dref, sef y lofa olaf yn y cwm i gau. Ceir yma hefyd Orsaf Rheillffordd a agorwyd yn 1890 a cheir hefyd traffont, cerflun i goffau'r etifeddiaeth ddiwydiannol, ysbyty cymunedol, nifer o ysgolion a thafarnau: y Cooper Arms a'r Royal Oak.
Cyfeiriadau [golygu]
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach