David Edward Hughes

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
David Edward Hughes

Gwyddonydd, telynor a dyfeiswr y teledeipiadur a'r meicroffon oedd David Edward Hughes (16 Mai 183122 Ionawr 1900).

Dyfeisiodd y teledeipiadur yn 1855 a'r meicroffon yn 1878.

Yn 1879 gwnaeth arbrawf ddiddorol a brofodd fod ymbelydredd electromagnetig yn bodoli, a hynny pan drosglwyddodd signalau radio o un pen i Great Portland Street, Llundain i'r llall. Roedd hyn wyth mlynedd cyn i Heinrich Hertz gael y clod am wneud yr un peth! Roedd hefyd, ugain mlynedd cyn darllediad radio Marconi. Ystyrir (ym myd gwyddoniaeth) fod y methiant o'i gydanabod yn gam mawr.

[golygu] Patent

  • David E Hughes, Patent UDA Rhif 0014917; Telegraph (gyda'i allweddell yn nhrefn y wyddor a gydag argraffydd ei hun) 20 Mai 1856
  • David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022531; Duplex Telegraph 4 Ionawr 1859
  • David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022770; Printing Telegraph (with type-wheel) 25 Ionawr 1859

[golygu] Anrhydeddau

Mae Hughes yn un o'r gwyddonwyr gyda'r nifer mwyaf o anrhydeddau erioed. Yn eu plith y mae:

  • Medal Aur Rhwysgfawr (Y Grand Gold Medal) a gyflwynwyd iddo yn y Paris Exhibition, 1867
  • Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol yn 1885
  • Medal Aur Albert gan Gymdeithas Celfyddydau Prydain yn 1897
  • Am ddyfeisio'r Teledeipiadur a'r meicroffon cyflwynodd Napoleon III anrhydedd Chevalier of the Legion of Honour gan ei wneud yn Commander of the Imperial Order of the Legion of Honour.
  • Urdd Sant Meurice a Sant Lazare (gan yr Eidal)
  • Urdd y Goron Haearn, a'r teitl 'Barwn' (gan Awstria)
  • Urdd Santes Ann (Rwsia)
  • Urdd Anrhydeddus Sant Michael (Bafaria)
  • Cadlywydd Urdd FrenhinolCroes Fawr Medjidie (Twrci)
  • Cadlywydd Urddau Carlos III (Sbaen)
  • Seren Prif Swyddog Urdd Brenhinol Takovo (Serbia)
  • Swyddog ac Urdd Brenhinol Leopold (Gwlad Belg).
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol